Olympia Dukakis

actores a aned yn 1931

Roedd Olympia Mary Dukakis (20 Mehefin 1931 - 1 Mai 2021) yn actores, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, athro ac actifydd Americanaidd. Perfformiodd mewn dros 130 o gynyrchiadau llwyfan, dros 60 o ffilmiau ac mewn 50 o gyfresi teledu. Roedd hi'n fwyaf adnabyddus fel actores sgrin. Enillodd Wobr Obie am yr Actores Orau ym 1963 am ei pherfformiad oddi ar Broadway ym Man Equals Man gan Bertolt Brecht.

Olympia Dukakis
Ganwyd20 Mehefin 1931 Edit this on Wikidata
Lowell, Massachusetts Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mai 2021 Edit this on Wikidata
Manhattan Edit this on Wikidata
Man preswylDinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA Baner Groeg Groeg
Alma mater
  • Coleg Prifysgol y Celfyddydau Cain Boston
  • Arlington High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, actor llwyfan, actor, cyfarwyddwr, cynhyrchydd ffilm, addysgwr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
PriodLouis Zorich Edit this on Wikidata
PlantChristina Zorich, Peter Zorich, Stefan Zorich Edit this on Wikidata
PerthnasauMichael Dukakis Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi am Actores Gynhaliol Orau, Gwobr Golden Globe am yr Actores Gynhaliol Orau - Ffilm Nodwedd, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Ellis Island Medal of Honor, Obie Award Edit this on Wikidata

Symudodd i actio ffilm ac enillodd Wobr Academi a Golden Globe am ei pherfformiad yn y ffilm Moonstruck (1987). Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Ask Me Again Tomorrow: A Life in Progress, yn 2003.[1]

Cafodd ei geni yn Lowell, Massachusetts, yn ferch i Alexandra "Alec" (née Christos) (1898–1994) and Constantine "Costa" S. Dukakis (1899–1975). Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Boston. Priododd yr actor Louis Zorich ym 1962; bu farw Zorich yn 2018.

Bu farw ym Manhattan, yn 89 oed.[2][3]

Ffilmiau golygu

  • John and Mary (1969)
  • The Rehearsal (1974)
  • National Lampoon Goes to the Movies (1982)
  • Working Girl (1988)
  • Look Who's Talking (1989)
  • Steel Magnolias (1989)
  • Look Who's Talking Too (1990)
  • Mighty Aphrodite (1995)
  • Picture Perfect (1997)

Cyfeiriadau golygu

  1. Nargi, Jan (January 10, 2007). "An Interview with Olympia Dukakis". Broadway World (yn Saesneg).
  2. Saad, Nardine (1 Mai 2021). "Olympia Dukakis, theater veteran and Oscar-winning 'Moonstruck' actress, dies at 89". Los Angeles Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Mai 2021.
  3. Gates, Anita (1 Mai 2021). "Olympia Dukakis, Oscar Winner for 'Moonstruck,' Dies at 89". The New York Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Mai 2021.