Omega
Omega (priflythyren Ω; llythyren fach ω) yw'r 24ain lythyren, a'r olaf, yn yr wyddor Roeg. Yn y system rhifolion Groegaidd, mae ganddi werth o 800.
Symbolaeth
golyguO ran ei symbolaeth Gristnogol, fel llythyren olaf yr wyddor mae Omega yn cynrychioli Diweddd y byd a darfod y Greadigaeth. Gydag Alffa mae'n ffurfio'r monogram sanctaidd Α-Ω (Alffa-Omega) sy'n cynrychioli'r Mab, ail berson Y Drindod, gan fod Duw yn dweud 'Myfi yw'r Alffa a'r Omega' yn y llyfr Beiblaidd Datguddiad Ioan (Dat. 1:8). Mae'r arwydd Alffa-Omega i'w gweld yn aml mewn eiconograffeg Gristnogol, e.e. mewn eiconau Groeg a Rwsiaidd.