On Her Majesty's Secret Service (ffilm)
ffilm acsiwn, llawn cyffro a ffilm am ysbïwyr gan Peter R. Hunt a gyhoeddwyd yn 1969
Y chweched ffilm yng nghyfres James Bond yw On Her Majesty's Secret Service (1969), sy'n seiliedig ar nofel 1963 o'r un enw, gan Ian Fleming. Dyma yw'r unig ffilm yn y gyfres i serennu George Lazenby fel yr asiant cudd i MI6, James Bond.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Peter R. Hunt |
Cynhyrchydd | Albert R. Broccoli |
Ysgrifennwr | Ian Fleming |
Addaswr | Richard Maibaum |
Serennu | George Lazenby Diana Rigg Telly Savalas |
Cerddoriaeth | John Barry |
Prif thema | On Her Majesty's Secret Service |
Cyfansoddwr y thema | John Barry |
Perfformiwr y thema | John Barry Orchestra |
Sinematograffeg | Michael Reed |
Golygydd | John Glen |
Dylunio | |
Dosbarthydd | United Artists |
Dyddiad rhyddhau | 18 Rhagfyr 1969 |
Amser rhedeg | 140 munud |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Cyllideb | $7,000,000 |
Refeniw gros | $87,400,000 |
Rhagflaenydd | You Only Live Twice (1967) |
Olynydd | Diamonds Are Forever (1971) |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Yn y ffilm, daw Bond wyneb yn wyneb â Blofeld sy'n cynllwynio i ryddhau pla trwy griw o "angylion angau" os nad yw ei ofynion yn cael eu hateb. Yn ystod y ffilm, mae Bond yn cyfarfod ac yn cwympo mewn cariad â Contessa Teresa di Vicenzo, ac yn ei phriodi yn y pen draw.