You Only Live Twice (ffilm)
Y pumed ffilm yng nghyfres James Bond yw You Only Live Twice (1967), a'r pumed ffilm i Sean Connery serennu fel yr asiant ffuglennol MI6. Addaswyd sgript y ffilm gan Roald Dahl a seiliwyd y ffilm ar nofel 1964 Ian Fleming o'r un enw. Dyma oedd y ffilm Bond cyntaf i anwybyddu'r rhan fwyaf o blot Fleming, gan ddefnyddio ambell gymeriad a lleoliad yn unig o'r stori wreiddiol mewn plot cwbl wahanol.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Lewis Gilbert |
Cynhyrchydd | Harry Saltzman Albert R. Broccoli |
Ysgrifennwr | Ian Fleming |
Addaswr | Roald Dahl |
Serennu | Sean Connery Mie Hama Donald Pleasence Akiko Wakabayashi |
Cerddoriaeth | John Barry |
Prif thema | You Only Live Twice |
Cyfansoddwr y thema | John Barry Leslie Bricusse |
Perfformiwr y thema | Nancy Sinatra |
Sinematograffeg | Freddie Young |
Golygydd | Peter R. Hunt |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | United Artists |
Dosbarthydd | Danjaq EON Productions |
Dyddiad rhyddhau | 1 Mehefin 1967 |
Amser rhedeg | 117 munud |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Cyllideb | $9,500,000 |
Refeniw gros | $111,600,000 |
Rhagflaenydd | Thunderball (1965) |
Olynydd | On Her Majesty's Secret Service (1969) |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Yn y ffilm, danfonir Bond i Siapan ar ôl i longau gofod Americanaidd a Rwsiaidd ddiflannu tra'n teithio drwy'r bydysawd. Gyda'r naill wlad yn beio'r llall yng nghanol y Rhyfel Oer, teithia Bond i ynys Siapaneaidd anghysbell er mwyn darganfod pwy sy'n gyfrifol. Yno cyfarfu â Ernst Stavro Blofeld, pennaeth SPECTRE. Cyflwyna'r ffilm gymeriad Blofeld nas gwelwyd ef cyn hyn. Mae SPECTRE yn gweithio ar ran rhywrai eraill, llywodraeth estron a gynrychiolir gan swyddogion Asiaidd. Er na enwir unrhyw wlad yn benodol yn y ffilm, mae'n bosib eu bod yn dod o Tsieina am fod perthynas Tsieina â'r UDA a'r Undeb Sofietaidd wedi cyrraedd isafbwynt tua'r cyfnod y cafodd y ffilm ei gynhyrchu.