Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru
Mae Opera Ieuenctid WNO (Saesneg: WNO Youth Opera) yn rhaglen perfformio a hyfforddi ar gyfer cantorion ifanc o'r oedrannau 8 i 25.[1] Mae'n ffurfio rhan o adain ieuenctid Opera Cenedlaethol Cymru, gyda grwpiau Opera Ieuenctid yn Ne Cymru (Caerdydd), Gogledd Cymru (Llandudno) a Birmingham. Mae cynyrchiadau diweddar yr Opera Ieuenctid yn cynnwys Brundibár (2019)[2], Kommilitonen! (2016) a Paul Bunyan (2013).
Mae'r grwpiau yn cwrdd yn aml trwy gydol y flwyddyn academaidd gan weithio o dan cyfarwyddwyr profiedig, arweinwyr lleisiol a cherddorwyr er mwyn gwella eu sgiliau perfformio, yn ogystal â chydweithio gyda chyfansoddwyr ac ysgrifennwyr i greu darnau newydd.
Mae cynyrchiadau nesaf yr Opera Ieuenctid yn cynnwys The Black Spider gan Judith Weir a Moscow, Cheryomushki gan Dmitri Shostakovich.
Cyn-aelodau nodweddig
golyguMae cyn-aelodau yr Opera Ieuenctid yn cynnwys Natalya Romaniw[3], Samantha Price a David Thaxton sy'n gweithio yn niwydiant opera a theatr gerdd.
Gwobrau
golyguDros y degawd diwethaf mae Opera Ieuenctid WNO wedi datblygu enw da fel ensemble theatrig eithriadol, gan ennill beirniadaeth 5* gan y wag genedlaethol, enwebiad ar gyfer Gwobr Sky Arts South Bank, ac wedi ennill Gwobr RPS a Theatr Cymru.
Cyn-gynyrchiadau
golyguBlwyddyn | Cynhyrchiad |
---|---|
2022 | Cherry Town, Moscow |
2022 | The Black Spider |
2019 | Brundibár |
2016 | Kommilitonen! |
2015 | The Very Last Green Thing |
2014 | Fern Hill |
2013 | Paul Bunyan |
2012 | The Face in the Mirror |
2011 | The Sleeper |
2010 | The Tailor's Daughter |
2010 | The Black Spider |
2009 | Sweeney Todd |
2007 | The Calling of Maisy Day |
2006 | Candide |
2006 | The Tailor's Daughter |
2004 | Sweeney Todd |
Recordiadau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Opera Ieuenctid". WNO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-05-25. Cyrchwyd 5 Mehefin 2022.
- ↑ "Opera Ieuenctid Opera Cenedlaethol Cymru yn dod â stori arswydus, gomig i Ganolfan y Celfyddydau Memo, y Barri, sy'n siŵr o godi gwallt eich pen". WNO. 5 Mawrth 2020. Cyrchwyd 5 Mehefin 2022.
- ↑ "Opera Cenedlaethol Cymru yn Lansio Cyfres Fer Newydd o Bodlediadau". WNO. 11 Mawrth 2021. Cyrchwyd 5 Mehefin 2022.
- ↑ WNO Rhyddhau 2117 / Hedd Wyn, opera Gymraeg newydd sbon: https://wno.org.uk/cy/news/releasing-2117-hedd-wyn-a-brand-new-welsh-language-opera