Moscow, Cheryomushki

Mae Moscow, Cheryomushki (Rwseg: Москва, Черёмушки; Moskva, Cheryómushki) yn opereta mewn tri act gan Dmitri Shostakovich, ei Opws 105. Gellir cyfeirio at yr opereta fel Cheryomushki. Mae Cheryomushki yn ardal yn Moscow llawn tai rhad wedi'u hadeiladu ym 1956, ac mae'r gair wedi'i ddefnyddio'n aml ar gyfer prosiectau adeiladu tai yn gyffredinol.

Moscow, Cheryomushki
Math o gyfrwnggwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1959 Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af24 Ionawr 1959 Edit this on Wikidata
CyfansoddwrDmitri Shostakovich Edit this on Wikidata

Cafodd y libreto ei ysgrifennu gan dîm profiedig Vladimir Mass a Mikhail Chervinsky, digrifwyr blaenllaw y cyfnod. Mae'r plot yn delio gyda thema a oedd yn pryderi nifer o bobl Rwsia ar y pryd, diffyg tai ac anawsterau amodau byw.[1] Mae cheryomushki yn cyfieithu i feddwl 'coed ceirios yr adar' a chafodd yr opereta ei henwi ar ôl stad tai go iawn yn ne gorllewin Moscow.

Cafodd y gwaith ei gwblhau ym 1958 a pherfformiwyd gyntaf yn y brifddinas ar 24 Ionawr 1959. Mae'r opereta yn atgoffaol o gerddoriaeth poblogaidd Shostakovich y cyfnod, ond ar yr un pryd mae'n asesiad dychanol o'r ailddatblygiadau tai yn Moscow.

Hanes Cyfansoddi

golygu

Dros gyrfa gerddorol a wnaeth ymestyn dros hanner canrif, fe wnaeth Shostakovich ysgrifennu cerddoriaeth mewn amryw o arddullion gwahanol. Yn ogystal â phymtheg symffoni a phymtheg pedwarawd llinynnol, mae darnau llai adnabyddus Shsotakovich yn cynnig diddordeb a chynllwyn. Gydag ailwerthusiad Shostakovich yn ddiweddar, mae ei gategori o gerddoriaeth ysgafn wedi dechrau mwynhau poblogrwydd yn neuaddau cyngerdd a recordiadau catalog.

Mae Cheryomushki yn perthyn i'r categori yma o gerddoriaeth. Er y wnaeth idiom ysgafn yr opereta ennill llwyddiant cynnar, cafodd y gwaith ei anghofio yn fuan yn repertoire Sofietaidd. Amser hir a fu cyn daeth y gwaith ei nabod yn y Gorllewin, o ganlyniad i ryw raddau i ddirywiad ffurf opereta ym mlynyddoedd ôl-rhyfel, ac ymddangosiad genres newydd megis sioe gerdd. Er hyn, nid oedd ei fywyd byrdymor yn annisgwyliedig, gan gofio roedd yr opereta wedi'i nabod fel gwaith adloniant ysgafn, a gyda phwyslais ar faterion cymdeithasol cyfoes a chyfeiriadau diwylliant poblogaidd.

Mae'r opereta yn adrodd stori grŵp o ffrindiau a chymdogion sydd wedi derbyn fflatiau newydd yn y datblygiad preswyl. Mae'r agweddau o'r problemau tai yn cael eu cynrychioli gan y cymeriadau.

  • Sasha, ar ôl ei briodas diweddar i Masha, yn ffeindio nad ydynt yn gallu byw gyda'i gilydd gan fod nid oes ganddynt dŷ. Mae Sasha yn rhannu fflat cymunedol gydag un o'i gyd-tywyswyr yr amgueddfa, Lidochka ac ei thad, Semyon Semyonovich, tra, ar ochr arall y dref, mae Masha yn rhannu ystafell mewn hostel dros dro.
  • Roedd Boris, arbenigwr ffrwydron, wedi bwriadu setlo yn Moscow ar ôl wedi gweithio mewn nifer o ardaloedd yr Undeb Sofietaidd. Yn agoriad yr opereta, mae Boris yn cwrdd â hen adnabyddiaeth, Sergei, sy'n gweithio fel gyrrwr ar gyfer swyddog statws uchel. Mae Sergei yn cwrdd ac yn cwympo mewn cariad gyda Liusia, gweithiwr adeiladwaith ifanc ac atyniadol o'r safle Cheryomushki.
  • Mae'r saith cymeriad 'da' yn cael eu gwrthwynebu gan elynion gyda buddiannau sy'n gwrthdaro. Mae Fyodor Drebednev yn fiwrocrat hurt sy'n gyfrifol am adeiladu stâd Cheryomushki a dosbarthu fflatiau i'r gymuned. Mae Drebenev wedi bod yn briod tair gwaith, ond erbyn hyn sydd gan partner newydd, Vava, dynes gyfeiliornus sy'n defnyddio ei carwriaeth fel modd o sicrhau perchnogaeth fflat newydd. Mae Barabashkin yn is-rheolwr y stâd, sydd hefyd yr un mor llwgr â Drebednev.

Hanes Perfformio

golygu

Cafwyd perfformiad gyntaf Moscow, Cheryomushki ar 24 Ionawr 1959 yn Theatr Opereta Mayakovsky o dan Grigori Stolyarov. Llwyfannodd Pimlico Opera y premiere Ewropeaidd yn Theatr Lyric, Hammersmith, Llundain ar 20 Hydref 1994, gyda chyfieithiad newydd gan David Puntney a lleihad yn y trefniant cerddorfaol gan Gerard McBurney. Bu perfformiad adfer ar 8 chwefror 2004 yn y Grand Théâtre de Geneve ac ar 17 Rhagfyr 2004 gan Opéra Nouvel Lyon a wnaeth hefyd teithio o gwmpas y DU gyda Opera North a chwarae yng ngŵyl oprea Brignez, gan gynnwys Summer Strallen fel Lidochka a Richard Leavey, Michelle Pentecost a Lee Meadows yn yr ensemble, ym mis Ebrill 2012 yn Theatr Opera Chicago. Mae'r perfformiad nodweddiadol nesaf yn cael ei berfformio gan Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru ym mis Hydref 2022 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, wedi'i gyfarwyddo gan Daisy Evans a'i dylunio gan Loren Elstein.

Rhannau

golygu
Rhan Llais
Alexander (Sasha), tywysydd yn yr Amgueddfa Hanes ac Adluniad Moscow bariton
Masha, gwraig Sasha mezzo-soprano
Lidochka, tywysydd amgueddfa gyda Sasha soprano
Semyon Semyonovich, tad Lidochka bas
Boris (Borya), arbenigwr ffrywdron tenor
Sergei, hen ffrind Boris a gyrrwr i swyddog statws uchel tenor
Liusia, gweithiwr o'r safle yn Cheryomushki soprano
Fyodor Drebednev, biwrocrat yn Cheryomushki sy'n dosbarthu fflatiau tenor
Vava, dynes sy'n cael carwriaeth gyda Drebednev soprano
Barabashkin, is-rheolwr stâd Cheryomushki bariton

Crynodeb

golygu

Cyfnod: 1950au

Lleoliad: Ardal Cheryomushki yn ne dwyrain Moscow, Rwsia.[2]

Yn yr hen dŷ, lle mae Sasha, Lidochka a'i thad, Semyon Semyonovich, yn byw. Mae Sahs a'i wraig, Masha, yn ogystal â Lidochka a'i thad yn cael eu grantio fflatiau newydd yn cheryomushki. Mae'r grŵp yn cael eu gyrru i'r stâd gan Sergei, sy'n nabod Cheryomushki ers i'w gariad/cyn-gariad Liusia weithio yna, a gan Boris, sydd wedi cwympo mewn cariad gyda Lidochka. Yn anffodus, pan maent yn cyrraedd, mae rheolwr y stâd, Barabashkin yn anfodlon i roi iddynt yr allweddi, gan rwystro mynediad at nifer o'r fflatiau.

O ganlyniad i wrthod Barabashkin, mae Boris yn defnyddio craen adeiladu er mwyn codi Lidochka a'i thad i'w fflat newydd trwy y ffenestr. Pan maent yn setlo mewn i'w cartref newydd, mae Drebednov a Barabashkin yn rhedeg i mewn i'r fflat trwy twll yn y wal. Mae'r preswylwyr yn cael eu symud allan, ond mae bwriadau Barabashkin yn cael eu datgelu. Mae wedi gwrthod rhoi Lidochka a'i thad yr allweddi i'r fflat er mwn i Derbednev, a wnaeth rhoi'r fflat drws nesaf i'w gariad, Vava, ac felly yn gallu ei phlesio gan uno y ddau fflat gyda'i gilydd er mwyn gwneud llety fwy moethus ar ei chyfer, rhywbeth anghyfreithlon. Wrth wneud hwn, fe wnaeth Drebednev geisio sicrhau ymroddiad parhaol Vava. Ar ôl i lwgr Drebednev gael ei ddatgelu, mae Sahsa a Masha yn cynnal parti tŷ yn ei fflat, lle mae'r cymeriadau 'da' yn cytuno i guro Drebednev a Barabshkin.

Yng ngolygfa cloi yr opereta, mae Boris yn ceisio ecsbloetio cyn-garwriaeth gyda Vava gan gysgu gyda hi er mwyn i Drebednev eu gweld, gan danseilio ei garwriaeth. Er hyn, mae ei gynllun yn cael ei wrthod gan ei ffrindiau, sy'n ceisio ffeindio canlyniad gwell. Mae Liusia yn helpu'r tenantiaid greu gardd hudol gyda mainc, lle ni chaiff biwrocratiaid eu clywed a dim ond y gwir sy'n cael ei dweud. O ganlyniad i hwn, mae Drebednev a Barabashkin yn cyfaddef i'w troseddau ac yn cael eu ffeindio'n euog gan y gymuned. Maent wedyn yn byw yn hapus am byth.

Dehongliadau

golygu

Ar gyfer ei ddehongliad dychanol o fyw yn yr Undeb Sofietaidd, e wnaeth Shostakovich ysgrifennu un o'i gyfansoddiadau hiraf. Gyda sgôr sy'n rhedge dros 100 munud heb ddeialog, mae Cheryomushki yn amryw o arddullion, o ddarnau y cyfnod Rhamantaidd i'r caneuon poblogaidd mwyaf hurt. Shostakovich ei hunain oedd un o feirniaid cyntaf y gwaith, a daeth i'w ddadrithio a theimlodd embaras dros anaeddfedrwydd y cyfansoddiad. Dim ond dyddiau cyn i berfformiad cyntaf yn Theatr Opereta Moscow, ysgrifennodd i Isaak Glikman:

I am behaving very properly and attending rehearsals of my operetta. I am burning with shame. If you have any thoughts of coming to the first night, I advise you to think again. It is not worth spending time to feast your eyes and ears on my disgrace. Boring, unimaginative, stupid. This is, in confidence, all I have to tell you.[3]

Mae Moscow, Cheryomushki yn enghraifft o hudoliaeth Shostakovich gyda gwaith dychanol a pharodi, dyfynnu a chyfeirio cerddorol.

Yn ystod y dilyniant ffantasi cyntaf, mae Shostakovich yn parodïo steil bale, gydag efelychiant o The Sleeping Beauty gan Tchaikovsky. Yma, mae'r cwpl briod, Sasha a Masha, yn dychmygu y fflat y byddant yn byw ynddi ryw ddydd. Mae dawns gain yn cael ei dechrau gan yr arwr a'r arwres rhamantaidd, ond cyn hir maent yn cael eu hymuno ar lwyfan gan eitemau domestig Sofietaidd maent eisiau - dodrefn, oergell modern a ffiol. Mewn moment o afrewswm, mae'r eitemau yn dechrau dawnsio hefyd.

Mae ethnogerddolegwyr wedi pwysleisio mae Cheryomushki yn llawn efelychu defnydd poblogaidd Sofietaidd. Yn ystod yr ail ddilyniant ffantasi, 'Deuawd Lidochka a Boris', mae Shostakovich yn parodïo esthetigau cenedlaetholgar y 'Mighty Handful' (grŵp o gyfansoddwyr 19eg ganrif Rwsia). Dyma'r olygfa lle mae Boris yn smyglo Lidochka mewn i'w fflat gan ddefnyddio craen. Gyda'r melodi canoloesol gwatwar, mae'r pumawdau paralel yn y linell fas a defnydd unawd corn ffrengig, mae'r rhagarweiniad cerddorfaol yn galw i gof steil ôl-syllol, yn atgofiadus o arioso Yaroslavna o opera Borodin, Prince Igor, neu barrau cyntaf symudiad araf o Ail symffoni Borodin. Ar gyfer cynulleidfaoedd Sofietaidd, byddai'r steilau poplogaidd wedi bod yn adnabyddus iawn.

Addasiad Ffilm

golygu

Yn 1963, fe wnaeth Lenfilm ryddhau fersiwn ffilm wedi'i gyfarwyddo gan Gerbert Rappaport, o dan y teitl byrrach, Cheryomushki. Yn y ffilm roedd cerddoriaeth ychwanegol gan Shostakovich.

Addasiad Saesneg

golygu

Recordiodd Pimlico Opera yr opereta gyda libretto yn y Saesneg ym 1995 ar dap ac ar CD, wedi'i dosbarthu gan BBC Music Magazine.

Cafodd y fersiwn Pimlico ei lwyfannu gan 'Youn Friends of Opera' ym 1988 yn Auckland, Seland Newydd. Roedd yn cynnwys cyfarwyddwr Carmel Carrol, Cyfarwyddwr Cerdd Claire Caldwell, Coreograffi gan Mary-Jane O'Reilly, dyluniad gan John Eaglen. Roedd cast o mwy na 50, gan gynnwys prif rannau Deidre Harris, Sarah Kent, Harriet Moir, Rebecca Samuel, Andrew Buchanan, John Humphries, Sebastian Hurrell, Wade Kernot a Chris Vovan.

Addaswyd libreto i'r Saesneg gan Meg Miroshnik, gan ei gynhyrchu yn Theatr Opera Chicago ym mis Ebrill 2012. Fe ddefnyddiodd y fersiwn lleihad o'r sgôr cerddorfaol gwreiddiol ar gyfer 14 o offerynwyr, wedi'i gomisiynu gan Pimlico Opera ym 1994 gan Gerard McBurney.

Mae cynhyrchiad iaith Saesneg o Moscow, Cheryomushki o dan yr enw Cherry Town, Moscow yn cael ei berfformio gan yr Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2022, gyda chyfieithiad newydd gan David Pountney.[4]

Ffynonellau

golygu
  • Casaglia, Gherardo (2005). "Cjerjomushki". L'Almanacco di Gherardo Casaglia (yn Eidlaeg).
  • Fay, Laurel (1999), Shostakovich: A Life. Oxford University Press.
  • MacDonald, Ian (1990). The New Shostakovich. Oxford University Press.
  • McBurney, Gerald, (2004). “Fried Chicken in the Bird-Cherry Trees”, in Faye, Laurel (ed): Shostakovich and his World. Princeton University Press.
  • Wilson, Elizabeth (2006). Shostakovich: A Life Remembered. Faber and Faber Limited

Cyfeiriadau

golygu
  1. The Cambridge Companion to Twentieth-Century Opera (yn Saesneg). Cambridge University Press. 2005. t. xxxviii. ISBN 9781139826341.
  2. Ed Vulliamy (2020). Louder Than Bombs: A Life with Music, War, and Peace (yn Saesneg). University of Chicago Press. t. 293. ISBN 9780226715544.
  3. Fay, Laurel (1999), Shostakovich: A Life. Oxford University Press, t. 231.
  4. "Block by block, a new way of life is assembled". Canolfan Mileniwm Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Mehefin 2022.