Opera roc

gwaith cerddorol a genre

Gwaith cerddorol ydy opera roc, fel arfer yn genre roc, sy'n cyflwyno stori wedi ei adrodd mewn sawl rhan, cân neu adran. Mae opera roc yn wahanol i albwm roc confensiynol, sydd fel arfer yn gasgliad o ganeuon nad yw'n seiliedig ar un thema neu stori. Mae datblygiadau diweddar yn cynnwys opera metel ac opera rap (neu hip-hopera).[1] Mae opera roc yn adrodd stori cylynol, er gall y manylion fod yn amhendant. Mae'n fath o albwm cysyniadol, ond gall albymau cysyniadol ddadansoddi awyrgylch neu thema yn unig yn hytrach na stori.

Opera roc
Enghraifft o'r canlynolgenre gerddorol, dosbarth o theatr Edit this on Wikidata
Mathsioe gerdd, cerddoriaeth roc Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1967 Edit this on Wikidata
Enw brodorolrock opera Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Operâu roc golygu

  • Tommy (1969)
  • Jesus Christ Superstar (1970)
  • The Rocky Horror Show (1973)
  • Chess (1984)

Cyfeiriadau golygu

  1.  R Kelly: Successes and scandals. BBC (2008-05-09). Adalwyd ar 2009-11-02.