Ornette Coleman
Roedd Ornette Coleman (Randolph Denard Ornette Coleman: 9 Mawrth 1930 – 11 Mehefin, 2015) yn sacsoffonydd, cyfansoddwr ac arweinydd band Jazz Americanaidd ac yn un o brif arloeswyr a sylfaenwyr Jazz Rhydd ar ddiwedd y 1950au a dechrau'r 1960au.[1]
Ornette Coleman | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mawrth 1930, 19 Mawrth 1930 Fort Worth |
Bu farw | 11 Mehefin 2015 o trawiad ar y galon Manhattan |
Label recordio | Blue Note, ABC Records, Antilles, Atlantic Records, ESP-Disk |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, trympedwr, chwaraewr sacsoffon, cerddor jazz, artist recordio |
Arddull | jazz |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Cymrodoriaeth MacArthur, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Praemium Imperiale, Paul Acket Award, Pulitzer Prize for Music, Doethur Anrhydeddus Prifysgol Columbia, Cymrodoriaeth Guggenheim, NEA Jazz Masters |
Gwefan | http://www.ornettecoleman.com/ |
Jazz Rhydd
golyguMae'r term Jazz Rhydd yn deillio o'i albwm Free Jazz: A Collective Improvisation (1960). Roedd ei waith arloesol yn aml yn rhoi'r gorau i'r cyfansoddiad ar sail cytgord, tonyddiaeth, newidiadau cordiau, a rhythm sefydlog oedd i'w clywed mewn Jazz cynharach. Yn lle hynny, pwysleisiodd Coleman ddull arbrofol o improf wedi'i wreiddio mewn chwarae ensemble a geiriau'r Blues.[2] Galwodd y beirniad Thom Jurek o AllMusic.com Coleman yn "un o'r ffigurau mwyaf annwyl a dadleuol yn hanes Jazz", gan nodi, er ei fod "bellach yn cael ei ddathlu fel arloeswr di-ofn ac athrylith, roedd yn cael ei ystyried i ddechrau gan gyfoedion a beirniaid fel gwirion, niwsans a hyd yn oed twyll".[3]
Gyrfa
golyguWedi'i eni a'i fagu yn Fort Worth, Texas, dysgodd Coleman ei hun i chwarae'r sacsoffon pan oedd yn ifanc. Dechreuodd ei yrfa gerddorol yn chwarae mewn grwpiau R&B a Bebop lleol. Ym 1958 recordiodd Coleman ei albwm cyntaf, Something Else!!!, a oedd yn cynnwys yr trwmpedwr Don Cherry a'r drymiwr Billy Higgins. Ffurfiodd y tri cherddor, ynghyd â'r basydd Charlie Haden, fand yn ddiweddarach, ac roedd recordiadau clasurol y pedwarawd yn cynnwys The Shape of Jazz to Come (1959) a Change of the Century (1960). Symudodd Coleman i Efrog Newydd, lle cododd ei syniadau radical o strwythur ac improf cryn stwr a dadalu. [4] [5]
Roedd y recordiau yma a’r rhai nesaf ar ddechrau'r 1960au yn dylanwadu'n fawr ar gyfeiriad Jazz dros y blynyddoedd wedyn. Daeth ei gyfansoddiadau Lonely Woman a Broadway Blues yn safonau cynnar pwysig Jazz Rhydd.
Yng nghanol y 1960au, gadawodd Coleman Label Atlantic am labeli fel Blue Note a Columbia Records, a dechreuodd berfformio gyda'i fab ifanc Denardo Coleman ar y drymiau. Dysgodd Coleman ei hun i chwarae'r ffidil a'r utgorn, gan ddefnyddio technegau radicalaidd ac anarferol. Gweithiodd ar gyfansoddiadau symffonig gyda'i albwm Skies of America yn 1972, yn cynnwys Cerddorfa Symffoni Llundain. Yng nghanol y 1970au, ffurfiodd y grŵp Prime Time yn symud i gyfeiriad Jazz-Funk trydan a'i syniad o gerddoriaeth harmolodig.
Erbyn y 1970au roedd well ganddo ganolbwyntio ar gyfansoddi na pherfformio. Ei gyfansoddiad estynedig mwyaf nodedig yw'r gyfres Sky of America, a recordiwyd ym 1972 gan Gerddorfa Symffoni Llundain gyda Coleman ar sacsoffon alto. Wedi'i ddylanwadu gan ei brofiad o chwarae improf gyda cherddorion Rif o Foroco ym 1973, ffurfiodd Coleman fand trydan o'r enw Prime Time, yr oedd ei gerddoriaeth yn gyfuniad o rythmau roc gydag improf ar y cyd heb harmoni. Perfformiodd gyda'r band tan y 1990au.
Yn 1995, sefydlodd Coleman a'i fab Denardo label recordio Harmolodic. Derbyniodd ei albwm Sound Grammar Wobr Pulitzer am Gerddoriaeth yn 2006, gan wneud Coleman ond yr ail gerddor Jazz erioed i dderbyn yr anrhydedd. [6]
Disgograffi
golyguFel arweinydd band
golyguAlbwms stiwdio
golygu- 1958: Something Else!!!! (Contemporary Records|Contemporary, 1958)
- 1959: Tomorrow Is the Question! (Contemporary, 1959)
- 1959: The Shape of Jazz to Come (Atlantic Records|Atlantic, 1959)
- 1959: Change of the Century (Atlantic, 1960)
- 1960: This Is Our Music (Ornette Coleman album)|This Is Our Music (Atlantic, 1961)
- 1960: Free Jazz: A Collective Improvisation|Free Jazz (Atlantic, 1961)
- 1961: Ornette! (Atlantic, 1962)
- 1961: Ornette on Tenor (Atlantic, 1962)
- 1965: Chappaqua Suite (Columbia, 1966)
- 1966: The Empty Foxhole (Blue Note Records|Blue Note, 1966)
- 1968: New York Is Now! (Blue Note, 1968)
- 1968: Love Call (album)|Love Call (Blue Note, 1971)
- 1971: Science Fiction (Ornette Coleman album)|Science Fiction (Columbia, 1972)
- 1972: Skies of America (Columbia, 1972)
- 1973-75: Dancing in Your Head (A&M, 1977)
- 1977: Soapsuds, Soapsuds (Artists House, 1977)
- 1976: Body Meta (Artists House, 1978)
- 1979: Of Human Feelings (Antilles, 1982)
- 1985: Song X (Geffen, 1986)
- 1987: In All Languages (Caravan of Dreams, 1987)
- 1988: Virgin Beauty (Portrait, 1988)
- 1992: Naked Lunch (film)#Music|Naked Lunch with Howard Shore, The London Philharmonic Orchestra (Milan, 1992) – soundtrack
- 1995: Tone Dialing (Harmolodics|Harmolodic/Verve Records|Verve, 1995)
- 1996: Sound Museum: Hidden Man (Harmolodic/Verve, 1996)
- 1996: Sound Museum: Three Women (Harmolodic/Verve, 1996)
Albwms Byw
golygu- Town Hall, 1962 (ESP Disk, 1965) – rec. 1962
- At the Golden Circle Stockholm|At the "Golden Circle", Vol. 1 & 2 (Blue Note, 1966) – rec. 1965
- An Evening with Ornette Coleman (Polydor International, 1967) – rec. 1965
- The Music of Ornette Coleman|The Music of Ornette Coleman - Forms & Sounds (RCA Victor, 1967)
- Ornette at 12 (Impulse!, 1968)
- Friends and Neighbors: Live at Prince Street (Flying Dutchman, 1972) – rec. 1970
- Crisis (Ornette Coleman album)|Crisis (Impulse!, 1972) – rec. 1969
- Opening the Caravan of Dreams (Caravan of Dreams, 1985)
- Prime Design/Time Design (Caravan of Dreams, 1985)
- Jazzbühne Berlin '88 (Repertoire, 1990) – rec. 1988
- The Belgrade Concert (Jazz Door, 1995) – rec. 1971
- Colors: Live from Leipzig (Harmolodic/Verve, 1997) – rec. 1996
- The Love Revolution (Gambit, 2005) – rec. 1968; music previously issued on Live In Milano 1968 and The Unprecedented Music of Ornette Coleman
- Sound Grammar (Sound Grammar, 2006) – rec. 2005
- Live in Paris 1971 (Jazz Row, 2007) – rec. 1971
- New Vocabulary (System Dialing, 2014) - rec. 2009
Amlgyfrannog
golygu- The Art of the Improvisers (Atlantic, 1970) – rec. 1959-61
- Twins (Ornette)|Twins (Atlantic, 1971) – rec. 1961
- To Whom Who Keeps a Record (Atlantic, 1975) – rec. 1959-60
- Who's Crazy? Vol. 1 & 2 (Atmosphere, 1979) – rec. 1966
- Broken Shadows (Columbia, 1982) – rec. 1971
- Beauty Is a Rare Thing (Rhino/Atlantic, 1995)
- The Complete Science Fiction Sessions (Columbia, 2000)
- The Ornette Coleman Legacy (Atlantic, 2018) – rec. 1960-61
Cyfrannau
golyguGyda Paul Bley
- 1958: Live at the Hilcrest Club 1958 (Inner City, 1976)
- 1958: Coleman Classics Volume 1 (Improvising Artists, 1977)
Gyda Charlie Haden
- 1976: Closeness (album)|Closeness (Horizon, 1976)
- 1976: The Golden Number (A&M, 1977)
Gyda Jamaaladeen Tacuma
- 1983–84: Renaissance Man (Gramavision, 1984)
- 2010: For the Love of Ornette (Jazzwerkstatt, 2010)
Gydag eraill
- Geri Allen, Eyes in the Back of Your Head (Blue Note, 1997)
- Louis Armstrong, Louis Armstrong and His Friends (Flying Dutchman/Amsterdam, 1970)
- Joe Henry, Scar (Joe Henry album)|Scar (Mammoth, 2001)
- Jackie McLean, New and Old Gospel (Blue Note, 1968) – rec. 1967
- Yoko Ono, Yoko Ono/Plastic Ono Band on the track "AOS" (Apple, 1970)
- Lou Reed, The Raven (Lou Reed album)|The Raven (RCA, 2003)
- Gunther Schuller, Jazz Abstractions (Atlantic, 1960)
- Bob Thiele, Head Start (Flying Dutchman, 1967)
- James Blood Ulmer, Tales of Captain Black (Artists House, 1978)
- Sonny Rollins, Road Shows, Vol. 2 (Doxy, 2011)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ratliff, Ben (June 11, 2015). "Ornette Coleman, Saxophonist Who Rewrote the Language of Jazz, Dies at 85". The New York Times.
- ↑ Mandell, Howard. "Ornette Coleman, Jazz Iconoclast, Dies At 85". NPR Music. Retrieved January 12, 2023.
- ↑ Jurek, Thom. "Ornette Coleman". AllMusic. Retrieved August 14, 2018.
- ↑ Fordham, John (June 11, 2015). "Ornette Coleman obituary". The Guardian. Retrieved December 16, 2018.
- ↑ Hellmer, Jeffrey; Lawn, Richard (May 3, 2005). Jazz Theory and Practice: For Performers, Arrangers and Composers. Alfred Music. pp. 234–. ISBN 978-1-4574-1068-0. Retrieved December 15, 2018.
- ↑ "2007 Pulitzer Prizes". Pulitzer.org.