Otto Bauer
Gwleidydd ac athronydd Marcsaidd o Awstria oedd Otto Bauer (5 Medi 1881 – 4 Gorffennaf 1938) a fu'n brif ddamcaniaethwr Plaid Ddemocrataidd Gymdeithasol Awstria (SPÖ). Gwasanaethodd yn Weinidog Tramor Awstria yn sgil diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Otto Bauer | |
---|---|
Ganwyd | 5 Medi 1881 Fienna |
Bu farw | 4 Gorffennaf 1938 Paris |
Dinasyddiaeth | Awstria |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd, athronydd, chwyldroadwr, llenor, gohebydd gyda'i farn annibynnol, golygydd cyfrannog |
Swydd | aelod o Gyngor Cenedlaethol Awstria, aelod o Gyngor Cenedlaethol Awstria, aelod o Gyngor Cenedlaethol Awstria, aelod o Gyngor Cenedlaethol Awstria |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ddemocrataidd, Sosialaidd Awstria |
Mudiad | Marcsiaeth |
Priod | Helene Bauer |
Gwobr/au | Military Merit Cross |
Gwefan | http://www.otto-bauer.net |
Ganed yn Fienna, Awstria-Hwngari, i deulu Iddewig cefnog. Bauer oedd un o sefydlwyr y mudiad addysg sosialaidd Die Zukunft ("Y Dyfodol"), a chyfrannodd at sawl cyfnodolyn adain-chwith. Fe'i penodwyd yn ysgrifennydd y blaid seneddol ym 1904. Amlinellai ei syniadaeth wleidyddol yn y gyfrol Die Nationalitätenfrage und die Sozialdemokratie (1907), sydd yn trafod problemau cenhedloedd Canolbarth Ewrop yn nhermau brwydr y dosbarthiadau.[1] Fe'i ystyrir yn un o brif feddylwyr y mudiad Awstro-Farcsiaeth.
Ymunodd â'r fyddin yn y Rhyfel Byd Cyntaf a chafodd ei ddal yn garcharor rhyfel gan luoedd Rwsia. Dychwelodd i Awstria ym 1917 a chymerodd awenau ymblaid adain-chwith yr SPÖ. Fe'i penodwyd yn Weinidog Tramor Awstria ar 21 Tachwedd 1918, yn llywodraeth y Canghellor Karl Renner. Ar 2 Mawrth 1919, arwyddodd Bauer cudd-gytundeb i uno Awstria â'r Almaen, ond gwrthodwyd y cynllun iredentaidd hynny gan y Cynghreiriaid. Ymddiswyddodd o'r llywodraeth ar 26 Gorffennaf 1919, ond parhaodd yn ffigur blaenllaw yn ei blaid. Gwasanaethodd yn aelod o Gyngor Cenedlaethol Awstria o 1929 i 1934. Yn sgil methiant y gwrthryfel sosialaidd yn Fienna ym 1934, aeth Bauer yn alltud yn Tsiecoslofacia. Symudodd yn ddiweddarach i Ffrainc, a bu farw ym Mharis yn 56 oed.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Die Nationalitätenfrage und die Sozialdemokratie (Fienna: Wiener Volksbuchhandlung, 1907).
- Die österreichische Revolution (Fienna: Wiener Volksbuchhandlung, 1923).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Otto Bauer. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Hydref 2020.