Cynhwysyn a werthir er mwyn rhoi blas brag (malt) ar laeth cynnes yw Ovaltine (Ovomaltine yn wreiddiol). Mae'n cynnwys maidd a siwgwr (ar wahân i'r rhai a werthir yn y Swistir), ac yn yr Unol Daleithiau nid oes flas brag ychwaith yn yr Ofaltine mewn pacedi glas. Ceir amrywiadau a gall rhai mathau gynnwys cocoa. Perchennog y cwmni sydd bia'r nod masnach cofrestredig yw'r Associated British Foods, a chaiff ei wneud gan Wander AG, un o is-gwmnïau Twinings a brynnodd y nod masnach oddi wrth Novartis yn 2003, drwy'r byd, oddigerth i'r UDA, ble prynnodd Nestlé yr hawl i'r enw oddi wrth Novartis.

Mwgaid o Ovaltine wedi'i wneud â llaeth poeth, gydag ychydig o'r powdr wrth ei ymyl
Hysbyseb Ovaltine yn yr American Journal of Clinical Medicine, Gorffennaf 1909

Allforiwyd Ovaltine i wledydd Prydain yn gyntaf yn 1909 dan yr enw Ovomaltine. Yn yr Eidal, yr enw ydy Ovalmaltina.

Hanes golygu

Datblygwyd y blas yn gynyrch y gellid ei werthu yn Bern, y Swistir, ac yno mae'n dal i gael ei alw gyda'r enw gwreiddiol, sef Ovomaltine sy'n tarddu o'r gair "ofwm", sef y Lladin am wy, un o'r prif gynhwysion gwreiddiol. Ychydig wedi iddynt ddyfeisio'r cynnyrch Ovaltine, symudodd y cwmni ychydig filltiroedd i'r gorllewin o Berne, i bentref o'r enw Neuenegg, ac yno y maent hyd heddiw.

Cyfeiriadau golygu