Owain Williams (gwleidydd)
Un o'r tri a garcharwyd yn dilyn ffrwydro trosglwyddydd trydan yng Nghapel Celyn yw Owain Williams (neu Now Bom) yn enw Mudiad Amddiffyn Cymru. Ysgrifennodd yr hanes mewn cyfrol o'r enw Cysgod Tryweryn yn 1995.
Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Cyfamod y Cymry Rhydd (Saesneg: The Society of the Covenant of the Free Welsh), neu'r Cyfamodwyr, sef Mudiad cenedlaetholgar Cymreig a sefydlwyd yn 1987 oherwydd anfodlonrwydd at yr hyn a welid fel diffyg ymateb Plaid Cymru i broblem y mewnlifiad i Gymru.
Bu'n gynghorydd ar Gyngor Sir Gwynedd ers blynyddoedd. Ar 5 Mai 2008, etholwyd ef yn arweinydd grŵp Llais Gwynedd ar y cyngor.
Llyfryddiaeth
golygu- Roy Clews (1980) To dream of freedom (Y Lolfa) ISBN 0-904864-95-2
- Owain Williams (1995) Cysgod Tryweryn (Gwasg Carreg Gwalch) ISBN 0-86381-356-9