Llais Gwynedd
Plaid leol ydy Llais Gwynedd a sefydlwyd fel grŵp i wrthwynebu cyn-gynghorwyr Cyngor Gwynedd, a pholisiau dadleuol Plaid Cymru ar gau ysgolion bychain Gwynedd. Roedd 28 ymgeisydd yn sefyll ar gyfer eu hetholiad cyntaf fel grŵp yn Etholiad Cyngor Sir Gwynedd, 2008.[1] Enillont 12 sedd i gyd, 2 yn ardal Arfon, 7 yn Nwyfor a 3 ym Meirionnydd.
Llais Gwynedd | |
---|---|
Arweinydd | Owain Williams |
Sefydlwyd | 2008 |
Pencadlys | dim pencadlys swyddogol |
Ideoleg Wleidyddol | |
Safbwynt Gwleidyddol | |
Tadogaeth Ryngwladol | dim |
Tadogaeth Ewropeaidd | dim |
Grŵp Senedd Ewrop | dim |
Lliwiau | Coch a Gwyrdd |
Gwefan | http://gwynedd.biz/mysharedaccounts/llais/1/ |
Gwelwch hefyd | Gwleidyddiaeth y DU |
Yn dilyn yr etholiad, fe gollodd Plaid Cymru reolaeth dros y sir gan nad oedd ganddynt bellach y mwyafrif oedd ei angen. Mae Llais Gwynedd yn gwrthod cydweithio gyda Plaid Cymru i greu clymblaid. Ar 5 Mai 2008, etholwyd y Cynghorydd Owain Williams yn arweinydd grŵp Llais Gwynedd ar y cyngor.[2]
Llais y Bobl oedd enw gwreiddiol y mudiad gwledig hwn, ond bu rhaid newid yr enw ar gyfer yr etholiad gan fod plaid o'r un enw yn bodoli ym Mlaenau Gwent.[3]
Dolenni allanol
golyguFfynonellau
golygu- ↑ John Stevenson (25 Ebrill 2008). Etholiad: Addysg yn bwnc trafod. BBC Cymru.
- ↑ Llais: Dim cydweithio â Plaid. BBC (6 Mai 2008).
- ↑ (Saesneg) Tom Bodden (26 Ionawr 2008). Silenced: Voice of the People. Daily Post.