Pêl-droed rheolau Awstralaidd
Chwaraeon poblogaidd yn Awstralia yw pêl-droed rheolau Awstralaidd (Saesneg: Australian rules football). Mae e’n fath o bêl-droed a chwaraeir yn bennaf yn Victoria, De Awstralia, Gorllewin Awstralia a Tasmania. Mae'n boblogaidd yn iawn ymhlith cymunedau Awstraliaid brodorol hefyd.
Enghraifft o'r canlynol | math o chwaraeon |
---|---|
Math | pêl-droed |
Gwefan | http://www.afl.com.au/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y gystadleuaeth pêl-droed Awstralaidd pwysicaf a mwyaf poblogaidd yw Cynghrair Pêl-droed Awstralaidd.
Hanes
golyguDyfeisiwyd pêl-droed Awstralaidd gan Tom Wills ym Melbourne ym 1858, ar gyfer cricedwyr i gadw’n heini yn ystod y gaeaf. Chwaraewyd y gêm gyntaf ar 31 Gorffennaf 1858 yng Nghae Richmond, ger safle modern Maes Criced Melbourne.
Crewyd Clwb Pêl-droed Melbourne ar 7 Awst 1858, ac ysgrifennwyd rheolau swyddogol ym 1859.
Rheolau
golyguChwaraeir pêl-droed Australaidd ar faes chwarae hirgrwn rhwng dau dîm, gyda deunaw chwaraewr yr un.
Rhaid i dimau gicio'r bêl drwy'r pedwar postyn gôl ar bob pen y maes chwarae. Rhoddir chwe "phwynt" am gicio'r bêl rhwng y ddau bostyn canolog, ac un "pwynt" am gicio'r bêl rhwng y pyst i'r dde a'r chwith.
Er enghraifft: Tîm A, 14.11.95 yn trechu Tîm B, 12.6.78. Ciciodd Tîm A bedair gôl ar ddeg (chwe phwynt yr un), ac un pwynt ar ddeg - (14 x 6) + 11 = 95. Ciciodd Tîm B ddeuddeg gôl (chwe phwynt yr un), a chwe phwynt - (12 x 6) + 6 = 78. Felly, Tîm A sy'n fuddugol.