Gweler hefyd: Pŵer

(y tudalen gwahaniaethau)

Ceblau'n dargludo pŵer trydan i dai a busnesau, gyda pheilon cadarn yn eu dal.

Diffinnir pŵer trydan fel y raddfa y mae ynni trydan yn cael ei drosglwyddo gan gylched trydanol. Yr uned a ddefnyddir i fesur y pŵer hwn yw'r Wat.

Pan fo cerrynt trydan yn llifo drwy gylched gall drosglwyddo'r egni i wneud gwaith mecanyddol. Mae amryw o ddyfeisiau'n gallu trosglwyddo'r pŵer i greu golau, gwres, symudiad neu sain.

Gellir creu trydan drwy dyrbin neu eneradur, neu'n gemegol mewn adwaith niwclear, neu gan gelloedd ffotofoltaidd a gellir ei storio mewn batris.