Defnyddir y term Països Catalans (Catalaneg, yn golygu "y Gwledydd Catalanaidd") am y tiriogaethau lle siaredir Catalaneg. Ystyria llawr o genedlaetholwyr Catalanaidd eu bod yn ffurfio cenedl.

Y Gwledydd Catalanaidd
Grafitti yn Argentona.

Ymddangosodd y term tua diwedd y 19g, a gwnaed ef yn boblogaidd gan yr awdur Joan Fuster i Ortells yn ei lyfr Nosaltres els valencians ("Ni, y Valenciaid"). Mae'r tiriogaethau hyn yn cynnwys:

Mae'r ardaloedd hyn yn cynnwys rhai rhannau lle nad Catalaneg yw'r iaith gynhenid, er enghraifft y Val d'Aran, lle siaredir Araneg. Ceir hefyd rai ardaloedd tu allan i'r Països Catalans lle siaredir Catalaneg.