Paisii Hilendarski

Mynach a hanesydd o Fwlgaria oedd Paisii Hilendarski (Bwlgareg Паисий Хилендарски) (ganwyd 1722 yn Bansko; bu farw 1773). Roedd yn ddiwygiwr diwylliannol, a chwaraeodd ran bwysig yng nghyfnod cynnar Diwygiad Cenedlaethol Bwlgaria. Mae'n fwyaf enwog am sgrifennu Hanes Slafonaidd-Bwlgaraidd. Edrychir arno yn aml fel tad mudiad a arweiniodd yn y pendraw at annibyniaeth Bwlgaria ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g. Mae wedi cael ei ganoneiddio fel sant gan yr Eglwys Uniongred.

Paisii Hilendarski
Ganwyd1722 Edit this on Wikidata
Bansko Edit this on Wikidata
Bu farw1773 Edit this on Wikidata
Asenovgrad Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Otomanaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethhenuriad, hanesydd, llenor Edit this on Wikidata
Swyddhegumen Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl19 Mehefin Edit this on Wikidata

Ganwyd Paisii yn Bansko ym 1722. Daeth yn fynach ym mynachlog Hilendar ym 1745. Ar ôl ychydig o flynyddoedd roedd yn teithio ar draws Bwlgaria yn gwneud gwaith y fynachlog. Gwelodd ddioddefiadau gwerin Bwlgaria o dan reolaeth yr Ymerodraeth Ottoman, gan synhwyro cyferbyniad dwys rhwng gorffennol ei wlad a'i chyflwr truenus presennol. Defnyddiodd ei brif waith Hanes Slafonaidd-Bwlgaraidd y Bobloedd, y Tsariaid, y Seintiau a'u Holl Weithredoedd a'r Ffordd Fwlgaraidd o Fyw i gyfleu gorffennol llewyrchus diwylliant Bwlgaria fel crud gwareiddiad Slafonaidd, ac i rybuddio ei gydwladwyr rhag dynwared diwylliant Groegaidd. Gorffennodd e'r hanes ym mynachlog Zograf ger Hilendar ym 1762. Gwnaethpwyd dros 50 o gopïau o'i waith yn y degawdau ar ôl ei farwolaeth ym 1773, ac fe'i hargraffwyd am y tro cyntaf yn Bwdapest ym 1844.

Ffynonellau

golygu
  • R. J. Crampton, A concise history of Bulgaria(Caergrawnt: Cambridge University Press, 1997)