Palas Holyrood
Sefydlwyd Palas Holyrood, neu'n swyddogol Palas Tŷ Holyrood, fel mynachlog gan David I, brenin yr Alban yn 1128, ac mae wedi gwasanaethu fel prif gartref brenhnoedd a brenhinesau'r Alban ers yr 15g. Safai'r palas ar ben y Filltir Frenhinol yng Nghaeredin. Palas Holyrood yw cartref swyddogol Elizabeth II yn yr Alban; mae hi'n treulio amser yn y palas ar ddechrau'r haf.
![]() | |
Math | preswylfa swyddogol, palas ![]() |
---|---|
Cysylltir gyda | designed landscape at Palace of Holyroodhouse ![]() |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Holyrood ![]() |
Sir | Dinas Caeredin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 55.9527°N 3.17229°W ![]() |
Cod post | EH8 8DX ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Dafydd I ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig categori A ![]() |
Manylion | |
Daw'r enw Holyrood o Seisnigeiddio'r gair Sgoteg Haly Ruid (Croes Sanctaidd).
AbatyGolygu
Mae adfeilion abaty Awgwstinaidd ar dir y palas, adeiladwyd hi yn 1128 yn ôl gorchymyn Brenin David I yr Alban. Bu'n safle nifer o goroniadau a phriodasau brenhinol. Disgynodd tô'r abaty yn ystod yr 18g, gan ei adael yn y cyflwr y mae heddiw.
Addaswyd yr Abaty'n gapel ar gyfer Urdd yr Ysgallen gan y brenin Iago VII, ond dinistrwyd hi gan y dorf. Yn 1691 cymerodd Kirk of the Canongate le'r Abaty fel yr eglwys plwyf leol; dyma lle mynycha'r frenhines wasanaethau pan fydd yn aros yn y palas.
PalasGolygu
Cartref Mari I, brenhines yr Alban, oedd y palas yn y 16g. Yn y palas, yn 1565, bu farw David Rizzio, ysgrifennydd y brenhines, wedi llofruddio gan yr Arglwydd Darnley, priod Mari, a'i ffrindiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Ceidwad Tŷ HolyroodGolygu
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Dolenni allanolGolygu
- (Saesneg) "The Royal Residences: The Palace of Holyroodhouse"
- (Saesneg) "Holyrood Sanctuary" Archifwyd 2010-02-12 yn y Peiriant Wayback.
- (Saesneg) Channel4.com - "Big Royal Dig"
- (Saesneg) "Edinburgh Architecture - The Royal Mile" Archifwyd 2011-06-06 yn y Peiriant Wayback.
- (Saesneg) "An historical timeline of The Palace of Holyroodhouse"