Palas brenhinol mawr yng nghymuned Versailles, Île-de-France, tua 11 milltir {18 km) i'r gorllewin o Baris yw Palas Versailles (Ffrangeg: Château de Versailles).

Palas Versailles
Mathchâteau, palas, amgueddfa, palas brenhinol, oriel gelf Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1661 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPalace and Park of Versailles Edit this on Wikidata
SirVersailles Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd67,000 m² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.8047°N 2.1203°E Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolFrench Baroque architecture Edit this on Wikidata
PerchnogaethCrown of France Edit this on Wikidata
Statws treftadaethmonument historique classé, Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganLouis XIII, brenin Ffrainc Edit this on Wikidata
Manylion

Adeiladodd y Brenin Louis XIII gaban hela crand yn Versailles yn 1623. Ehangwyd yr adeilad hwn gan ei olynydd, Louis XIV, yn balas a aeth drwy sawl cam datblygiad o 1661 i 1715. Roedd yn hoff breswylfa i'r ddau frenin, ac yn 1682, symudodd Louis XIV ei lys a'i lywodraeth i Versailles, a daeth y palas yn brifddinas Ffrainc i bob pwrpas. Parhaodd y sefyllfa hon gan Louis XV a Louis XVI. Fodd bynnag, yn nyddiau cynnar y Chwyldro Ffrengig yn 1789 dychwelodd y teulu brenhinol a'r llys i Baris. Yn ystod gweddill y chwyldro, cafodd Palas Versailles ei adael i raddau helaeth a'i wagio o'i gynnwys.

Ar ôl i Napoleon gael ei goroni'n ymerawdwr yn 1804, ystyriodd adfer y prif balas fel ei breswylfa ond roedd y gost yn ormod. Yn lle hynny defnyddiodd balas llai gerllaw, y Grand Trianon, fel preswylfa haf o 1810 i 1814. Ar ôl cwymp Napoleon ni ddefnyddiodd Louis XVIII na Siarl X Versailles fel preswylfa, er eu bod wedi gwneud rhywfaint o waith arno. Ym 1833 sefydlodd Louis Philippe I amgueddfa o hanes Ffrainc yn y palas. Ar ôl hynny defnyddiwyd y palas ar gyfer seremonïau mawreddog a digwyddiadau pwysig megis arwyddo Cytundeb Versailles yn 1919.

Mae'r palas yn eiddo i lywodraeth Ffrainc ac ers 1995 mae wedi'i reoli, o dan gyfarwyddyd Ministère de la Culture (Gweinyddiaeth Ddiwylliant Ffrainc).[1] Mae'n un o'r atyniadau twristiaeth mwyaf poblogaidd yn y byd; mae tua 15,000,000 o bobl yn ymweld â'r palas, y parc, neu'r gerddi yn Versailles bob blwyddyn.[2]

Dynodwyd y palas a'r parc sydd o'i amgylch yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1979 oherwydd ei bwysigrwydd fel canolfan pŵer, celf a gwyddoniaeth yn Ffrainc yn ystod yr 17g a'r 18g.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "The Public Establishment". Palace of Versailles. 31 Hydref 2016. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2024.
  2. "Palace of Versailles (Château de Versailles)". Explore France. Government of France. 18 Mehefin 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Rhagfyr 2022. Cyrchwyd 3 Awst 2021.
  3. "Palace and Park of Versailles". UNESCO World Heritage Centre. United Nations Educational, Scientific, and Cultural Organization. Cyrchwyd 9 Hydref 2021.

Dolenni allanol

golygu