Pam Na Fu Cymru
Llyfr academaidd Cymraeg gan Simon Brooks yw Pam Na Fu Cymru: Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2015 fel rhan o'r gyfres "Safbwyntiau".
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Simon Brooks |
Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Cymru |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 2015 |
Pwnc | Gwleidyddiaeth Cymru |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9781783162338 |
Pwnc a dadl
golyguCeisia'r awdur ganfod y rheswm pam na lwyddodd cenedlaetholdeb Cymreig, a Chymraeg yn enwedig, yn yr un modd â mudiadau cenedlaetholgar yng nghanolbarth a dwyrain Ewrop yn ystod y 19g. Dadleua Brookes taw rhyddfrydiaeth sy'n gyfrifol am y methiant hwn, gan ei bod yn canolbwyntio'n fwy ar ryngwladoldeb yn hytrach na phobloedd leiafrifol. Mae'n ymosod ar rai o eilunod hanes Cymru: radicalwyr ac anghydffurfwyr Oes Fictoria, oedd yn cofleidio egwyddorion hollfydol ac yn rhoi'r gorau i neilltuoldeb. O ganlyniad, daeth Prydeindod i ddominyddu bydolwg y sefydliad Cymreig, gan roi'r Gymraeg dan anfantais.
Derbyniad
golyguLlwyddodd y llyfr i ennill lle ar restr fer y Wobr Ffeithiol Creadigol yng ngwobr Llyfr y Flwyddyn 2016.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhestr Fer 2016[dolen farw] (Llenyddiaeth Cymru). Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2016.
Dolen allanol
golygu- Pam Na Fu Cymru Archifwyd 2016-06-26 yn y Peiriant Wayback ar wefan Gwasg Prifysgol Cymru
- Pam Na Fu Cymru ar Google Books