Rhyddfrydiaeth
Ideoleg ac athroniaeth wleidyddol a'i gwreiddiau yn yr Oleuedigaeth yw rhyddfrydiaeth, a rhyddid personol a gwelliant cymdeithasol yn greiddiol iddi. Mewn gwleidyddiaeth fodern, ystyrir fod amcanion tebyg i ryddfrydiaeth a democratiaeth, sef newid y gyfundrefn gymdeithasol â chefnogaeth y bobl. Yn wahanol i radicaliaeth, lle caiff newid cymdeithasol ei ystyried yn nod sylfaenol, a seilir yr athroniaeth ar egwyddorion newid awdurdod, mae rhyddfrydiaeth yn anelu at newid cymdeithasol yn raddol, ystwyth ac addasol.
Rhyddfrydiaeth ddiwylliannol
golyguCanolbwyntia rhyddfrydiaeth ddiwylliannol ar hawliau'r unigolyn yn nhermau cydwybod a dull o fyw, gan gynnwys rhyddid rhywiol, crefyddol a gwybyddol, a diogelwch rhag ymyrraeth lywodraethol yn y bywyd personol. Cafwyd gan John Stuart Mill driniaeth arloesol o'r cysyniad o ryddfrydiaeth ddiwylliannol yn ei draethawd On Liberty. Yn gyffredinol, mae rhyddfrydiaeth ddiwylliannol yn gwrthwynebu rheolaeth neu sensoriaeth lywodraethol yng nghyd-destun llenyddiaeth, celf, gamblo, rhyw, puteindra, rheoli cenhedlu, erthylu, ewthanasia, alcohol, a rhai cyffuriau eraill. Mae'r mwyafrif o ryddfrydiaid yn gwrthwynebu ymyrraeth mewn o leiaf rai o'r materion hyn, a weithiau'r cyfan.