Pandwri

offeryn megis gitâr neu'r liwt o Georgia

Offeryn o Georgia yw'r pandwri (Saesneg: panduri; Ffrangeg: pandouri; Georgeg: ფანდური phandouri) gyda tair tant, yn gyffredin ledled dwyrain Georgia yn y Cawcasws. Fe'i defnyddir yn aml fel cyfeiliant i gantorion. Roedd yn offeryn ar gyfer uchelwyr. Gan ei fod yn symbol o lawenydd, roedd yn cynrychioli gwrthrych hanfodol yng nghartrefi teuluoedd, ond nid oeddem yn cael ei chwarae a'i ddangos adeg marwolaeth.

Pandwri o Georgia
tu cefn y pandwri

Dull golygu

Mae'r offeryn yn debyg i'r gitâr a chwaraeir gan canu cordiau. Mae i'r offeryn tair tant ac fe'i chwaraeir gan ganu cordiau. Mae'n canu G3 A3 C4 neu E3 B3 A4. Mesuriad yr offeryn yw oddeutu 500 mm.[1]

Y pandwri heddiw golygu

Heddiw, mae'r pandwri yn gyffredin ledled Georgia. Fe'i chwaraeir yn ystod cyngherddau a sioeau amrywiol o ddawnsfeydd a chaneuon polyffonig Sioraidd. Mae'n debyg i'r chonguri, sydd â chyseiniant gwahanol ac sydd â phedwar tant.

Trio Mandili golygu

Ymysg lladmeryddion mwyaf adnabyddus y pandiri yn ryngwladol yw grŵp triawd merched o Georgia, Trio Mandili. Mae eu fideos yw gweld a'u rhannu ar sianel YouTube.

Misha Tsitelashvili golygu

Un o 'sêr' y pandwri yw'r Jeorjiad, Misha Tsitelashvili,[2] sy'n plethu sŵn traddodiadol a thechneg wych gyda sain gyfoes a syntheseinydd. Ceir fersiwn gyfoes o ddawns enwog lezginca y Cawcawsus.[3] Mae ef ac eraill yn gwneud defnydd helaeth a deheuig o roi tril sydyn a chyson gyda'r arddwrn a'r bysedd i greu sŵn rhythmig, cyflym, cynhyrfus o'r pandwri.[4]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu