Georgeg
Iaith Gartfelaidd yw Georgeg (ქართული [kʰartʰuli]) a siaredir gan Georgiaid. Hi yw iaith swyddogol Georgia yn y Cawcasws. Mae ganddi ei hwyddor arbennig ei hun.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | iaith, iaith lenyddol, iaith fyw ![]() |
Math | Kartvelian ![]() |
Enw brodorol | ქართული ენა ![]() |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | ka ![]() |
cod ISO 639-2 | geo, kat ![]() |
cod ISO 639-3 | kat ![]() |
Gwladwriaeth | Georgia, Twrci, Rwsia, Iran, Aserbaijan, Armenia ![]() |
System ysgrifennu | y tair gwyddor Georgeg, Braille Georgeg, Asomtavruli, Nuskhuri, Mkhedruli ![]() |
![]() |
Perthynas â ieithoedd eraillGolygu
Mae Georgeg yn perthyn i deulu'r ieithoedd Cartfelaidd - a hi yw'r iaith fwyaf adnabyddus yn y teulu, gyda'r nifer uchaf o siaradwyr. Ag eithrio theorïau amheus, does dim cysylltiad genynnol wedi ei brofi rhwng yr ieithoedd hyn ag unrhyw deulu arall yn y byd. O blith y ieithoedd Cartfelaidd eraill, yr ieithoedd Zan sydd â'r berthynas agosaf at Georgeg; mae ymchwil yn awgrymu iddyn nhw ymwahanu tua 2700 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r iaith Svan yn perthyn o bell hefyd, ond ymwahanodd Svan a'r ieithoedd eraill oddeutu 4000 o flynyddoedd yn ôl.
Yr wyddor GeorgegGolygu
Llythyren | Trawsgrifiad swyddogol |
Trawsgrifiad IPA |
---|---|---|
ა | a |
ɑ |
ბ | b |
b |
გ | g |
ɡ |
დ | d |
d |
ე | e |
ɛ |
ვ | v |
v |
ზ | z |
z |
თ | t |
tʰ |
ი | i |
i |
კ | k’ |
kʼ |
ლ | l |
l |
მ | m |
m |
ნ | n |
n |
ო | o |
ɔ |
პ | p’ |
pʼ |
ჟ | zh |
ʒ |
რ | r |
r |
ს | s |
s |
ტ | t’ |
tʼ |
უ | u |
u |
ფ | p |
pʰ |
ქ | k |
kʰ |
ღ | gh |
ɣ |
ყ | q’ |
qʼ |
შ | sh |
ʃ |
ჩ | ch |
t͡ʃʰ |
ც | ts |
t͡sʰ |
ძ | dz |
d͡z |
წ | ts’ |
t͡sʼ |
ჭ | ch’ |
t͡ʃʼ |
ხ | kh |
x |
ჯ | j |
d͡ʒ |
ჰ | h |
h |
StatwsGolygu
Georgeg yw iaith swyddogol Georgia. Yn Abchasia a De Osetia, mae'r sefyllfa'n wahanol, gyda'r llywodraethau sydd ohoni yn hyrwyddo Abchaseg Oseteg a Rwseg ar draul y Georgeg. Mae llywodraeth Abchasia yn honni hyrwyddo addysg yn Oseteg, ond mewn gwirionedd addysg cyfrwng Rwseg sydd ar gynydd yno.[1]
Siaredir Georgeg mewn rhannau o Iran megis ardal Fereydan ger Isfahan, ond nid oes gan yr iaith unrhyw fath o statws swyddogol yno.
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Maria Gruzdeva ar ymylon Rwsia". pedwargwynt.cymru. Cyrchwyd 2021-09-18.