Panthéon Paris
Adeilad yn ninas Paris yw'r Panthéon. Yma y claddwyd llawer o enwogion Ffrainc.
Math | mawsolëwm, eglwys |
---|---|
Enwyd ar ôl | Apostol |
Agoriad swyddogol | 1781 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Quartier de la Sorbonne, 5ed arrondissement |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 48.846198°N 2.346105°E |
Cod post | 75005 |
Rheolir gan | Centre des monuments nationaux |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth neoglasurol |
Statws treftadaeth | monument historique classé, monument historique classé |
Manylion | |
Adeiladwyd y Panthéon yn y 18g fel eglwys. Tarawyd Louis XV, brenin Ffrainc yn ddifrifol wael yn 1744, a gwnaeth adduned y byddai'n adeiladu eglwys yn gysegredig i sant Geneviève. Ni orffennwyd y gwaith adeiladu hyd 1790.
Ymhlith yr enwogion sydd wedi eu claddu yma mae:
- Voltaire (1694–1778), athronydd ac awdur
- Jean-Jacques Rousseau (1712–1778), athronydd ac awdur
- Jacques-Germain Soufflot (1713–1780), pensaer cyntaf y Panthéon ei hun
- Joseph-Louis, comte de Lagrange (1736–1813), mathemategydd
- Jean Rousseau (1738–1813)
- Toussaint Louverture (1743–1803), chwyldroadwr o Haiti
- Jean-Paul Marat (1744–1793), gwleidydd. Cymerwyd ei lwch oddi yma yn 1795.
- Honoré-Gabriel Riqueti, comte de Mirabeau (1749–1791), gwleidydd
- Jean Lannes, dug Montebello (1769–1809), milwr
- Alexandre Dumas (1802–1870), awdur
- Victor Hugo (1802–1885), awdur
- Louis Braille (1809–1852), dyfeisydd y dull ysgrifennu i ddeillion
- Émile Zola (1840–1902), awdur
- Pierre Curie (1859–1906), gwyddonydd
- Jean Jaurès (1859–1914), gwleidydd
- Marie Curie (1867–1934), gwyddonydd
- Jean Monnet (1888–1979), economegydd, un o sylfaenwyr yr Undeb Ewropeaidd
- Jean Moulin (1899–1943), arweinydd y Résistance Ffrengig
- Antoine de Saint-Exupéry (1900–1944), awyrennwr ac awdur
- André Malraux (1901–1976), awdur
- Aimé Césaire (1913–2008), llenor a gwleidydd
- Simone Veil (1927–2017), cyfreithwraig a gwleidydd
- Missak Manouchian (1906–1944), bardd o Armenia, aelod o'r Resistance Ffrangeg