Jean-Jacques Rousseau

Llenor ac athronydd

Athronydd ac awdur yn yr iaith Ffrangeg oedd Jean-Jacques Rousseau (28 Mehefin 1712 - 2 Gorffennaf 1778).

Jean-Jacques Rousseau
Ganwyd28 Mehefin 1712 Edit this on Wikidata
Genefa Edit this on Wikidata
Bu farw2 Gorffennaf 1778 Edit this on Wikidata
o ataliad y galon Edit this on Wikidata
Ermenonville Edit this on Wikidata
Man preswylTorino, Swydd Stafford Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Genefa, Ffrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, botanegydd, cyfansoddwr, coreograffydd, ysgrifennwr, cerddolegydd, llenor, nofelydd, hunangofiannydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, addysgwr, naturiaethydd, dramodydd, gwyddoniadurwr, gohebydd, gwyddonydd gwleidyddol, awdur ysgrifau, beirniad cerdd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEmile, The Social Contract, Julie, ou la Nouvelle Héloïse, Confessions Edit this on Wikidata
Mudiadsocial contract, cerddoriaeth faróc Edit this on Wikidata
TadIsaac Rousseau Edit this on Wikidata
PriodThérèse Levasseur Edit this on Wikidata
PartnerFrançoise-Louise de Warens Edit this on Wikidata
llofnod

Bywgraffiad

golygu

Cafodd ei eni yn Geneva i rieni Ffrengig. Daeth yn ffrind i Denis Diderot ac ymunodd â'r Gwyddoniadwyr. Credai fod natur y bod dynol yn berffaith ynddi ei hun ond ei bod wedi'i llygru gan gymdeithas amherffaith; amlygir hyn yn bennaf yn ei nofel ar addysg, Émile (1762). Cafodd syniadau gwleidyddol Rousseau ddylanwad sylweddol ar ei gyfoeswyr yn Ffrainc a gweddill Ewrop ac, yn ddiweddarach, ar arweinwyr a damcaniaethwyr y Chwyldro Ffrengig (er na chredai J.-J. ei hun mewn chwyldro). Fel llenor cafodd ei arddull cain a syniadaeth Ramantaidd ddylanwad ar lenorion fel Goethe, Shelley, Byron a Wordsworth. Ceir ei ysgrifeniadau mwyaf personol yn Les Confessions a Rêveries du promeneur solitaire, a gyhoedwyd ar ôl ei farwolaeth. Mewn cyferbyniad â Voltaire ac eraill o'r Rhesymegwyr, roedd Rousseau yn Gristion rhyddfrydol a gredai fod Natur yn allwedd i ddeall y Duwdod. Mae haneswyr yn cytuno i waith Rousseau achosi chwyldro mewn agweddau tuag at y naturiol a'r cyntefig drwy Ewrop; efallai mai ei nofel Julie ou la Nouvelle Héloïse a fu'n bennaf gyfrifol am hyn. Ym 1766, ac yntau wedi cilio i Lundain yng nghwmni'r athrnoydd o'r Alban David Hume, roedd Rousseau yn awyddus i ymgartrefu yng Nghymru. Cynigodd yr Aedol Seneddol Chase Price lety iddo yng Nghymru, ond fe'i perswadiwyd gan David Hume i fynd i Swydd Stafford yn lle. Trafodir hyn mewn erthygl gan Heather Williams, 'Cymru trwy lygaid Rousseau (ac eraill)', Y Traethodydd Hydref 2013.

Gwaith Rousseau

golygu

Yr argraffiad safonol o holl waith Rousseau yn Ffrangeg yw'r Œuvres complètes, 5 cyfrol, Paris, Gallimard, Bibliothèque de la Pléiade (1959-95).

 
Wynebddalen Discours sur l'origine et les fondements de l'inégalité parmi les hommes gan Jean-Jacques Rousseau (1755)

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu