Paprica
(Ailgyfeiriad o Paprika)
Sbeis a wneir o ffrwythau sych, mâl Capsicum annuum, sef pupur neu bupur tsili, yw paprica. Tynnir craidd ac hadau'r ffrwyth ac yna sychir y cnawd a'i droi'n bowdr, gan roi iddo ei liw coch. Mae ganddo flas mwyn, neu weithiau egr, ac yn felys a braidd yn chwerw.[1]
Enghraifft o'r canlynol | cynhwysyn bwyd |
---|---|
Math | sbeis, bwyd powdr |
Yn cynnwys | pupryn |
Cynnyrch | Capsicum |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sbeis cenedlaethol Hwngari yw paprica, a chafodd ei gyflwyno i'r wlad honno gan y Tyrciaid. Mae'r Hwngariaid yn ei roi mewn gwlash, stiwiau a phrydau cyw iâr. Mae paprica hefyd yn gynhwysyn poblogaidd yng nghoginiaeth Sbaen a Phortiwgal. Tyfir ar Benrhyn Iberia yn Andalucía ac Extremadura yn bennaf. Allforir hanner o'r cnwd paprica a gynhyrchir yn Sbaen i'r Unol Daleithiau.[1]