Papur papur newydd

Math o bapur rhad, o ansawdd isel yw papur papur newydd.[1] Fe'i ddefnyddir i argraffu papurau newydd, comics, pamffledi, a defnyddiau argraffedig eraill a fwriedir i'w dosbarthu'n eang. Gan nad yw'n cael ei brosesu mor drylwyr â phapur arferol, mae'n sensitif iawn i olau'r haul, treigl amser a lleithder. Oherwydd ei ansawdd, nid yw'n addas i'w gadw mewn archifau, er bod rhai sefydliadau yn cadw copïau o gyhoeddiadau a argraffir ar bapur papur newydd.

Rholiau o bapur papur newydd

Gwneir papur papur newydd o fwydion pren, yn hytrach na mwydion cemegol.[2] Cafodd ei ddyfeisio gan Charles Fenerty ym 1838.[3] Heddiw cynhyrchir y mwydion pren o gonwydd Ewrop a Gogledd America ac felly'n mae'n adnodd adnewyddadwy ac yn un o'r papurau gorau i'r amgylchedd.[4]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

golygu
  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 936 [newsprint].
  2. (Saesneg) Newsprint. Jacci Howard Bear's Desktop Publishing Glossary. About.com. Adalwyd ar 16 Medi 2012.
  3. (Saesneg) Bellis, Mary. History of Papermaking. About.com. Adalwyd ar 16 Medi 2012.
  4. (Saesneg) Newsprint and the Environment. newspapersoc.org.uk. Adalwyd ar 16 Medi 2012.
  Eginyn erthygl sydd uchod am newyddiaduraeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.