Parc Cenedlaethol Aoraki
Mae Parc Cenedlaethol Aoraki ar Ynys y De, Seland Newydd ac yn cynnwys 31 o fynyddoedd dros 3,000 medr o uchder, gan gynnwys Aoraki (Saesneg: Mount Cook) ei hyn. Mae Rhewlif Tasman yn y parc hefyd; mae'n 29 cilomedr o hyd, a hyd at 3 cilomedr o led[1] ac mae 5 prif afon, sef Afon Godley, Afon Murchison, Afon Tasman, Afon Hooker ac Afon Mueller.[2] Mae pentref Aoraki yn y parc hefyd, ar lannau Llyn Pukaki.[3]
Math | parc cenedlaethol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Aoraki |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Te Wahipounamu, Aoraki Mackenzie International Dark Sky Reserve |
Sir | Canterbury Region, Mackenzie District |
Gwlad | Seland Newydd |
Arwynebedd | 706.96 km² |
Cyfesurynnau | 43.7333°S 170.1°E |
Rheolir gan | Department of Conservation |
Mae 300 math gwahanol o blanhigion a thua 40 math o adar yn y parc.[2]