Parc Cenedlaethol Los Glaciares
Parc cenedlaethol yn nhalaith Santa Cruz yn rhan yr Ariannin o Batagonia yw Parc Cenedlaethol Los Glaciares.
Math | national park of Argentina, gwarchodfa natur |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Lago Argentino Department |
Gwlad | Yr Ariannin |
Arwynebedd | 4,459 km², 726,927 ha |
Uwch y môr | 919 metr |
Cyfesurynnau | 50°S 73°W |
AR-Z | |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Dynodwyd y parc, sydd ag arwynebedd o 7.240 km², yn Barc Cenedlaethol yn 1937. Ef yw'r mwyaf y yr Ariannin. Daw'r enw "Los Glaciares" o'r rhewlifoedd yn y parc, rhai ohonynt y rhewlifoedd mwyaf i'r de o'r cyhydedd tu allan i'r Antarctig. Yma hefyd ceir Llyn Argentino, sydd a nifer o rewlifoedd yn llifo iddo. Y mwyaf adnabyddus o'r rhain yw rhewlif Perito Moreno. Ceir amrywiaeth o fywyd gwyllt, yn cynnwys y condor, puma, guanaco ac eraill.
Dynodwyd y parc yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.