Parc Cenedlaethol Northumberland
Gorwedd Parc Cenedlaethol Northumberland yn sir Northumberland yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Dyma'r parc cenedlaethol mwyaf gogleddol yn Lloegr. Mae'n cynnwys ardal o dros 1030 km² sy'n ymestyn o'r ffin gyda'r Alban yn y gogledd i'r ardal i'r de o Fur Hadrian. Mae'n un o'r parciau cenedlaethol lleiaf poblogaidd gan ymwelwyr yn Lloegr. Mae'r parc yn gorwedd yn gyfangwbl o fewn ffiniau Northumberland ac yn ffurfio tua chwarter y sir honno. Ychydig iawn o bobl sy'n byw yno.
Rhan o Fur Hadrian ym Mharc Cenedlaethol Northumberland | |
Math | un o barciau cenedlaethol Cymru a Lloegr |
---|---|
Poblogaeth | 1,848 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Northumberland |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 1,049 km² |
Cyfesurynnau | 55.3167°N 2.2167°W |
Cod SYG | E26000004 |
Statws treftadaeth | International Dark Sky Park |
Manylion | |
Ceir sawl ardal neilltuol yn y parc. Yn y gogledd ceir Bryniau Cheviot, cadwyn o fryniau am y ffin rhwng yr Alban a Lloegr. Yng nghanolbarth y parc ceir ardal o waundir a rhosydd eang, gyda rhannu'n orchuddiedig gan goedwigoedd, e.e. Coedwig Kielder. Mae rhan ddeheuol y parc yn cynnwys rhan ganol Mur Hadrian a'r tir o'i gwmpas.
Mae ardal y parc yn cynnwys sawl safle archaeolegol sy'n adlewyrchu hanes hir y rhan yma o Ororau'r Alban a Lloegr, o henebion cynhanesyddol i safleoedd o gyfnod y Rhufeiniaid a'r Oesoedd Canol pan fu'r ardal yn rhan o deyrnas Northumbria.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol y parc