Parc Tredegyr
cymuned yn ninas Casnewydd
Cymuned yn ninas Casnewydd yw Parc Tredegyr (Saesneg: Tredegar Park). Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 3,387.
Math | dosbarth, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 3,387 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Casnewydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5612°N 3.0198°W |
Cod SYG | W04000834 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jayne Bryant (Llafur) |
AS/au | Ruth Jones (Llafur) |
Saif i'r de-orllewin o ganol y ddinas, ar gyrion yr ardal adeiledig. Caiff ei enw o Barc Tredegyr; mae'r plasdy, Plas Tredegyr, ei hun yng nghymuned Coedcernyw. Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y parc yma yn 1988 a 2004. Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys stad dai fawr y Dyffryn.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jayne Bryant (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Ruth Jones (Llafur).[1][2]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014