Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011

(Ailgyfeiriad o Cyfrifiad 2011)

Cynhaliwyd cyfrifiad ym mhob rhan o'r DU, a adnabyddir yn gyffredinol fel Cyfrifiad 2011, ar ddydd Sul 27 Mawrth 2011. Hwn oedd yr 20fed cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig. Trefnwyd y Cyfrifiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghymru a Lloegr a gan Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yr Alban yn yr Alban a gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon yng Ngogledd Iwerddon. Mae canlyniadau manwl yn ôl ardal, ardal cyngor, ward ac ardal allbwn ar gael ar eu gwefannau perthnasol.

Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011
Cyfrifiad blaenorol Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001
Cyfrifiad nesaf Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2021
Ardal Deyrnas Unedig
Awdurdod Swyddfa Ystadegau Gwladol
Dyddiad y Cyfrifiad 27 Mawrth 2011
Hysbyseb yng Nghernyw ar sut i nodi eu cenedligrwydd Cernyweg yng Nghernyw.

Rhyddhawyd y canlyniadau cyntaf, sef amcangyfrifon am oedran, rhyw a deiliaid tai, ar 16 Gorffennaf 2012.[1], a dilynwyd hyn gyda gwybodaeth manylach ar 11 Rhagfyr 2012.[2] Daw rhagor o fanylion yn y misoedd hyd at Hydref 2013.

Y ddau fater llosg sy'n deillio o'r wybodaeth hon parthed Cymru yw: lleihad yn y niferoedd sy'n siarad Cymraeg a lleihad yn y niferoedd sy'n nodi eu crefydd fel "Cristion".

Y Gymraeg

golygu

Bu cwymp yng nghanran poblogaeth y dinasyddion a nododd eu bont yn siarad Cymraeg, a chwympodd y nifer absoliwt hefyd. Y gwahaniaeth rhwng y ddau rif yma ydy'r cynnydd a welwyd yn y nifer o bobl ddwad neu fewnlifiad o wledydd eraill i Gymru. Canfyddwyd:

  • Bu cwymp (neu "leihad") o 9% yng nghanran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg (o 20.8% i 19.0%, sef 1.8 pwynt canran). Ond 3.5% oedd y cwymp yn nifer y siaradwyr. Mae'r ffigurau'n wahanol oherwydd twf ym mhoblogaeth Cymru. Bu cynnydd hefyd o ddau bwynt canran yn nifer y trigolion a anwyd y tu allan i'r wlad.
  • Yn y De Orllewin y gwelwyd y cwymp mwyaf yn nifer y siaradwyr: yn Sir Gâr, Ceredigion, Castell-Nedd Port Talbot ac Abertawe. Roedd Cyfrifiad 2001 wedi dangos canran uchel o siaradwyr Cymraeg yn y siroedd hyn a oedd dros 65 oed, felly gellir dadlau fod rhan o'r cwymp presennol yn deillio o ostyngiad hanner canrif yn ôl yn nghanran y plant a fagwyd yn siarad Cymraeg.
  • Yn y De Ddwyrain, bu i gyfran y siaradwyr Cymraeg gwympo'n sylweddol ym Mlaenau Gwent, Torfaen a Merthyr Tudful. Ar y llaw arall, cynyddodd cyfran y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerffili a Sir Fynwy rhyw fymryn. Yn ôl Cyfrifiad 2001 roedd mwyafrif y siaradwyr Cymraeg yn y siroedd hyn yn blant ysgol, ac roedd y niferoedd yn cynnwys llawer o blant nad oedd â rhiant a oedd yn medru Cymraeg ac nad oedd ychwaith yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg. Gan na fu newid chwyldroadol yn nulliau dysgu Cymraeg rhwng 2001 a 2011, mae yna le i gredu fod y cwymp yn deillio o newid yn y ffordd mae rhieni yn nodi sgiliau ail iaith eu plant yn y Gymraeg ar ffurflen y Cyfrifiad, yn hytrach na newid yn arfer iaith y boblogaeth.
  • Yn y Gogledd Ddwyrain yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, bu gostyngiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg hefyd, ond i raddau llai. Bydd ystadegau wardiau yn dangos yn gliriach a yw'r ardal hon yn dilyn patrwm cyffredinol y De Orllewin neu'r De Ddwyrain.
  • Yn y Gogledd Orllewin yng Ngwynedd, Môn a Chonwy, roedd nifer y siaradwyr yn weddol sefydlog ond mae cynnydd yn y boblogaeth oherwydd y mewnlifiad yn golygu bod canran y siaradwyr wedi gostwng.
  • Yng Nghaerdydd, cynyddodd nifer y siaradwyr yn sylweddol, ond oherwydd twf poblogaeth y brifddinas ni fu ond cynnydd bychan yn y ganran.
  • Mae'r ystadegau'n dibynnu ar farn a thuedd y person a lenwodd y ffurflen wreiddiol, felly mae newid mewn agweddau tuag at y Cymraeg yn effeithio ar y canlyniadau, heb o reidrwydd adlewyrchu newid yn yr arferoedd ieithyddol. Ceir gwahaniaethau, hefyd, rhwng y cyfrifiadau gwahanol yn y cwestiynau a ofynwyd (ond nid am y Gymraeg rhwng 2001 a 2011). Am y rhesymau hyn, gall cymharu'r union ffigurau'n uniongyrchol fod yn gamarweiniol.
Ardal Siarad Cymraeg 2001 Siarad Cymraeg 2011 Newid, Nifer Cyfran Siaradwyr Poblogaeth ≥ 3 Oed, 2001 Poblogaeth ≥ 3 Oed, 2011 Newid, Pwynt Canran o'r Boblogaeth
Ynys Môn 38,893 38,568 -325 colli un o bob 119 siaradwr 64,679 67,403 -2.91%
Gwynedd 77,846 77,000 -846 colli un o bob 92 siaradwr 112,800 117,789 -3.64%
Conwy 31,298 30,600 -698 colli un o bob 44 siaradwr 106,316 111,724 -2.05%
Sir Ddinbych 23,760 22,236 -1524 colli un o bob 15 siaradwr 90,085 90,527 -1.81%
Sir y Fflint 20,599 19,343 -1256 colli un o bob 16 siaradwr 143,382 146,940 -1.20%
Wrecsam 18,105 16,659 -1446 colli un o bob 12 siaradwr 124,024 129,425 -1.73%
Powys 25,814 23,990 -1824 colli un o bob 14 siaradwr 122,473 129,083 -2.49%
Ceredigion 37,918 34,964 -2954 colli un o bob 12 siaradwr 72,884 73,847 -4.68%
Sir Benfro 23,967 22,786 -1181 colli un o bob 20 siaradwr 110,182 118,392 -2.51%
Sir Gaerfyrddin 84,196 78,048 -6148 colli un o bob 13 siaradwr 167,373 177,642 -6.37%
Abertawe 28,938 26,332 -2606 colli un o bob 11 siaradwr 216,226 231,155 -1.99%
Castell-nedd Port Talbot 23,404 20,698 -2706 colli un o bob 8 siaradwr 130,305 135,278 -2.66%
Pen-y-bont ar Ogwr 13,397 13,103 -294 colli un o bob 45 siaradwr 124,284 134,545 -1.04%
Bro Morgannwg 12,994 13,189 195 ennill un o bob 66 siaradwr 115,116 122,018 -0.48%
Caerdydd 32,504 36,735 4231 ennill un o bob 7 siaradwr 294,208 332,273 0.01%
Rhondda Cynon Taf 27,946 27,779 -167 colli un o bob 167 siaradwr 223,924 225,555 -0.16%
Merthyr Tudful 5,532 5,028 -504 colli un o bob 10 siaradwr 54,115 56,623 -1.34%
Caerffili 18,237 19,251 1014 ennill un o bob 17 siaradwr 163,297 171,972 0.03%
Blaenau Gwent 6,417 5,284 -1133 colli un o bob 5 siaradwr 67,795 67,348 -1.62%
Torfaen 9,780 8,641 -1139 colli un o bob 8 siaradwr 88,062 87,844 -1.27%
Sir Fynwy 7,688 8,780 1092 ennill un o bob 7 siaradwr 82,351 88,609 0.57%
Casnewydd 13,135 13,002 -133 colli un o bob 98 siaradwr 131,820 139,849 -0.67%
CYMRU 582,368 562,016 -20,352 colli un o bob 28 siaradwr 2,805,701 2,955,841 -1.74%

Cymhariaeth gyda Chyfrifiad 2001

golygu

Yn ystod y ddegawd hon newidiodd y ganran a oedd yn gallu siarad Cymraeg a gwelwyd cynnydd sylweddol yn awdurdodau de-ddwyrain Cymru’n arbennig ond gostwng wnaeth y canrannau yn y pedwar awdurdod a oedd â’r canrannau uchaf yn siarad Cymraeg, sef Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Yn 2001 lleiafrif o 41% (239,000) o’r holl siaradwyr a oedd yn byw yn y pedair sir hynny lle roedd mwyafrif y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg Roedd hyn yn cymharu gyda 48% (245 mil) yn 1991. Mae dosbarthiad y siaradwyr yn amrywio’n ôl oed ac yn ôl siaradwyr rhugl.

Canlyniad y newidiadau hyn oedd bod llai o gymunedau lle roedd canrannau uchel yn gallu siarad Cymraeg er bod hefyd lai o gymunedau lle roedd canrannau isel iawn yn gallu siarad Cymraeg.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Amcangyfrifon o Boblogaeth a Chartrefi Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o wefan Comisiynydd y Gymraeg. Caniateir atgynhyrchu deunydd y Comisiynydd am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng cyn belled â’i fod yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Uwchlwythwyd y gwaith hwn i'r Wicipedia Cymraeg o dan hawliau trwydded 'Defnydd Teg'.