Areithiau Pros

llyfr; a gyhoeddwyd yn 1934

Yr Areithiau Pros yw'r enw a fathwyd gan D. Gwenallt Jones i ddisgrifio grŵp o ddarnau rhyddiaith rethregol yn y Gymraeg. Gwaith awduron anhysbys yw'r rhan fwyaf o'r Areithiau ac mae'n anodd eu dyddio'n fanwl, ond gellir dweud eu bod yn perthyn i'r Oesoedd Canol Diweddar a dechrau'r Cyfnod Modern. O ran iaith ac arddull mae'r Areithiau yn rhychwantu'r bwlch rhwng Cymraeg Canol a Chymraeg Diweddar.

Parodïau llenyddol gan ysgrifenwyr hyddysg yn nhraddodiadau Cymru a'i llenyddiaeth yw'r Areithiau. Gellid ystyried mai dyma gyfraniad llenyddiaeth Gymraeg i draddodiad o weithiau tebyg yn Ewrop. Mae'r traddodiad hwnnw yn cychwyn yng Ngroeg yr Henfyd gydag areithiau'r soffyddion a gwaith awduron dychanol fel Lucian ac yn cyrraedd ei uchafbwynt ar y cyfandir yng ngwaith awduron fel Cervantes a Rabelais. Ond mae gwreiddiau'r areithiau yn ddwfn yn y traddodiad Cymreig a Cheltaidd hefyd, lle gwelir arddulliau rhethregol mewn chwedlau Gwyddeleg Canol a chwedlau Cymraeg fel Culhwch ac Olwen a Breuddwyd Rhonabwy.

Y testunau golygu

Cafodd testunau'r Areithiau eu dosbarthu'n hwylus gan Gwenallt fel a ganlyn.

Parodïau golygu

Parodïau o'r deunydd Arthuraidd Cymraeg Canol, yn enwedig Culhwch ac Olwen, a geir yn yr Areithiau hyn.

  • Araith Wgon. Tadogir hyn ar y bardd canoloesol cynnar Gwgon Brydydd. Yn ôl rhai o'r llawysgrifau Simwnt Fychan (c. 1530-1606) yw'r awdur.
  • Araith Iolo Goch. Araith a dagogir ar y bardd adnabyddus Iolo Goch (c.1320-c.1398). Dyma'r araith enwocaf, mae'n debyg. Mae'n gampwaith llenyddol cryno sydd yn amlwg yn seiliedig ar Culhwch ac Olwen lle gofynnir i'r arwr Culhwch geisio pethau anodd os nad amhosibl i'w cael (yr Anoethau).
  • Breuddwyd Gruffudd ab Adda ap Dafydd. Testun a dadogir ar y bardd Gruffudd ab Adda ap Dafydd (fl. 1340-1370).

Areithiau Serch golygu

  • Araith o Gowreinwaith
  • Araith Ieuan Brydydd Hir. Testun a dadogir ar y bardd canoloesol Ieuan Brydydd Hir (fl. 1450-1485)
  • Trwstaneiddiwch Gruffudd ab Adda ap Dafydd. Testun arall am y bardd Gruffudd ab Adda ap Dafydd (cf. Breuddwyd Gruffudd ab Adda ap Dafydd uchod)
  • Llythyr annerch at ferch ac Ateb i'r llythyr. Parodïau o gonfensiynau'r amour courtois a dychan ar serch yn gyffredinol.

Areithiau Gofyn golygu

  • Llythyr i ofyn Rhwyd Berced. Llythyr i ofyn benthyg rhwyd i ddal brithyll. Gan Gruffudd ab Ifan ap Llywelyn Fychan.
  • Araith Gruffudd ab Ifan i Ruffudd ap Robin ap Rhys. Gan Gruffudd ab Ifan ap Llywelyn Fychan eto.

Dewisbethau golygu

Hoffbethau pobl yw testun y Dewisbethau, sy'n rhoi cyfle i'r awdur ymarfer ei ddoniau rhethregol trwy bentyrru ansoddeiriau disgrifiadol. Ceir nifer o destunau cyffelyb yn y llawysgrifau Cymreig sydd heb eu cyhoeddi.

  • Dewisbethau Dafydd Mefenydd. Bardd anhysbys yw Dafydd Mefenydd.
  • Dewisbethau Dafydd Meilienydd. Un englyn yn unig o waith Dafydd Maelienydd sydd wedi goroesi.
  • Dewisdrem Dafydd ap Gwilym. Y bardd enwog Dafydd ap Gwilym yw gwrthrych y testun, ond mae'n llawer diweddarach nag oes y bardd.
  • Dewisbethau Howel Lygad Cwsg
  • Dewisbethau Dafydd Lygad Cwsg oedd yn caru y Ferch o Wynedd
  • Dewisbethau'r Ferch o Wynedd

Casbethau golygu

Rhestru pethau sy'n gas gan unigolyn a geir yn y Casbethau, sydd mewn cyferbyniaeth lwyr â'r Dewisbethau.

Ychwanegol golygu

  • Breuddwyd Llywelyn Goch ap Meurig Hen. Bardd adnabyddus o'r 14g oedd Llywelyn Goch ap Meurig Hen (fl. 1350-1390). Cariadwraeth Llywelyn Goch a Lleucu Llwyd yw testun y Breuddwyd. Thomas Wiliems (1545/6-1622) a gopïodd y testun gorau. Mewn nodyn mae'n dweud ei fod wedi torri allan "yr oferbethau oll", felly mae'r testun yn amherffaith.

Llyfryddiaeth golygu

  • D. Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1934).

Gweler hefyd golygu