Partit dels Socialistes de Catalunya
Plaid gyda'i hegwyddorion yn ddwfn mewn democratiaeth sosialaidd yw Partit dels Socialistes de Catalunya (Sbaeneg: Partido de los Socialistas de Cataluña, Cymraeg: Plaid Sosialaidd Catalwnia acronym swyddogol: PSC-PSOE ). Mae'n ganlyniad i uno tair plaid yn 1978: Partit Socialista de Catalunya-Reagrupament PSC–R, y Partit Socialista de Catalunya–Congrés, PSC–C a'r Federació Catalana del PSOE, FSC, sef y fersiwn Catalonaidd o Blaid Sosialaidd Gweithwyr Sbaen a'i gangen Val d'Aran ("Dyffryn Aran").
Partit dels Socialistes de Catalunya | |
---|---|
Sbaeneg | Partido de los Socialistas de Cataluña |
Cymraeg | Plaid Sosialaidd Catalwnia |
Llywydd | Ángel Ros |
Ysgrifennydd cyffredinol | Miquel Iceta |
Sefydlwyd | 16 Gorffennaf 1978 |
Unwyd gyda | Plaid Sosialaidd Catalwnia (Cyngres) • Plaid Sosialaidd Catalwnia (Atgynulliad) • Ffederasiwn Catalan y PSOE |
Pencadlys | c/ Nicaragua, 75–77 08029 Barcelona |
Papur | Endavant Digital |
Asgell yr ifanc | Ieuenctid Sosialaidd Catalwnia |
Rhestr o idiolegau | Democratiaeth Sosialaidd |
Sbectrwm gwleidyddol | Canol-chwith |
Plaid yn y DU | Partido Socialista Obrero Español Plaid Sosialaidd Gweithwyr Sbaen |
Mae llawer o bolisiau'r 'PSC-PSOE' yn cyd-fynd gydag annibyniaeth i Gatalwnia ar ffurf ffederal a chyda polisiau cenedlaetholgar. Yr ardaloedd cryfaf o ran aelodaeth yw ardaloedd dinesig Tarragonès, Montsià, a Val d'Aran. Yn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2017 cipiodd y blaid 16 sedd: 605,844 o bleidleisiau (12.7%).
O 1979 ymlaen roedd yn un o bleidiau cryfaf Catalwnia yn yr etholiadau sirol, rhanbarthol, Ewropeaidd a Chyffredinol, ond yn llai llwyddiannus yn Etholiadau Senedd Catalwnia.
Yn 1999 roedd ganddi 52 o seddi ond collwyd llawer yn y blyndyddoedd dilynol, a chafwyd cryn anghytundeb ynghylch faint o annibyniaeth y dylent ymgyrchu drosto gyda rhai yn mynnu creu Llywodraeth Ffederal ac eraill yn credu mewn annibyniaeth lwyr.
Arweinyddion
golyguYsgrifenyddion
golygu- Joan Reventós (1978–1983)
- Raimon Obiols i Germà (1983–1996)
- Narcís Serra i Serra (1996–2000)
- José Montilla (2000 – 17 Rhagfyr 2011)
- Pere Navarro i Morera (ers 17 Rhagfyr 2011)
- Miquel Iceta (ers 13 Gorffennaf 2014)
Llywydion
golygu- Joan Reventós (1983–1996)
- Raimon Obiols i Germà (1996–2000)
- Pasqual Maragall i Mira (2000–2007)
- José Montilla (2007–2008) (Dros dro)
- Isidre Molas i Batllori (2008-2011)