Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2017
Cynhaliwyd Etholiad Catalwnia, 2017 ar 21 Rhagfyr 2017, sef 12fed Llywodraeth y wlad, gan ddilyn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015. Enillodd y tair plaid dros-annibyniaeth fwyafrif y seddau: 70 allan o 135 sedd.
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pob un o'r 135 sedd yn Senedd Catalwnia 68 sedd sydd angen i gael mwyafrif | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofrestrwyd | 5,553,983 0.8%[1] | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Nifer a bleidleisiodd | 4,388,074 (79.0%) 4.1 pp = | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Canlyniad | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Yn wahanol i'r etholiadau o'i blaen, galwyd yr etholiad gan Lywodraeth Sbaen, wedi iddynt ddiddymu Llywodraeth Catalwnia ar 27 Hydref 2017, yn dilyn Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 pan bleidleisiodd 91.9% dros annibyniaeth. Galwyd yr etholiad gan Sbaen. Credai Brif Weinidog Sbaen Mariano Rajoy Breyy byddai'r mwyafrif o'r etholwyr yn pleidleisio dros bleidiau a oedd yn gwrthwynebu annibyniaeth, ond nid felly y bu, ac roedd y canlyniad yn embaras mawr iddo. Collodd plaid Rajoy 7 sedd, gan ddal eu gafael ar ddim ond tair sedd.
Ar ddiwrnod yr etholiad, a'r cyfnod a oedd yn arwain ato, roedd nifer o'r ymgeiswyr dros-annibyniaeth naill ai ar ffo yng Ngwlad Belg neu wedi eu carcharu gan Brif Lys Sbaen. Carcharwyd wyth o'r arweinyddion, gan gynnwys y cyn Is-Lywydd (ac arweinydd yr ERC), Oriol Junqueras heb fechniaeth; roedd Gwarant Ewropeaidd i Arestio nifer o arweinyddion a oedd wedi ffoi hefyd wedi'u cyhoeddi gan Sbaen, gyda Puigdemont a phedwar o'i Gabined yn ymgyrchu naill ai o garchar neu o wlad arall.
Cefndir
golyguWedi i Lywodraeth Catalwnia, ar 27 Hydref 2017, gyhoeddi eu bod yn sefydlu Gweriniaeth Catalwnia, ymatebodd Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, ei fod yn diddymu'r Llywodraeth ac yn galw Etholiad Cyffredinol - gyda'r bwriad o ethol rhagor o ASau a oedd o blaid cadw Catalwnia o fewn ffiniau presennol Sbaen. Cyhoeddodd Sbaen hefyd y byddent yn gwneud popeth i gesio 'dychwelyd' Catalwnia yn ôl i'w corlan, fel cymuned ymreolaethol, a dechreuwyd gweithredu cymal 155 o Gyfansoddiad Sbaen a roddai'r hawl iddynt wneud 'unrhyw beth sydd ei angen' i uno Sbaen.
Pleidiau
golyguTrafododd pleidiau Catalwnia a ddylent gymryd rhan yn yr etholiad neu ei anwybyddu.[2][3][4]
Ar 5 Tachwedd 2017 etholodd Plaid Democratiaeth Ewropeaidd Catalwnia (PDeCAT) mai cyn-Lywydd y wlad, Carles Puigdemont, fyddai eu hymgeisydd, o Wlad Belg, ble roedd yn alltud - a hynny dan y faner 'Junts per Catalunya'.[5][6] Ymunodd PDeCAT gyda nifer o ASau Annibynnol i ffurfio plaid newydd o'r enw JuntsxCat (Gyda'n Gilydd Dros Catalwnia) gan alw ar amnest ar gyfer y "carcharorion gwleidyddol", sef prif swyddogion Llywodraeth Catalwnia a garcharwyd gan Sbaen.[7]
Penderfynodd Chwith Weriniaethol Catalwnia neu'r ERC dros beidio ag adnewyddu'r clymblaid Junts pel Sí.[8] Cyhoeddodd y Candidatura d'Unitat Popular, (CUP) fod yr etholiad yn "anghyfreithiol" ac na fydai'n ymladd am seddau.
Unodd pedair plaid o dan yr enw Gweriniaeth Chwith Catalwnia (neu ERC–CatSí).
Safbwynt ynglŷn ag annibyniaeth
golyguCytuno gydag annibyniaeth |
Plaid / Clymblaid | Cytuno gyda Refferendwm | Meddylfryd unochrog (Unilateralism) | Cytuno gyda rheolaeth uniongyrchol o Fadrid | Cyfeiriadaeth |
---|---|---|---|---|---|
Ydy | Junts per Catalunya (JuntsxCat) | [9] | |||
Gweriniaeth Chwith Catalwnia-Catalwnia Ie (ERC–CatSí) | [10] | ||||
Candidatura d'Unitat Popular–Crida Constituent (CUP) | [11] | ||||
Na | Ciudadanos (Cs) | [12] | |||
Sosialwyr Catalwnia (PSC–PSOE) | [13] | ||||
Plaid y Bobl (PP) | [14] | ||||
Niwtral | Catalunya en Comú–Podem (CatComú–Podem) | [15][16] |
Pleidiau a chlymbleidiau | Cyfuniad | Ideoleg | Ymgeisydd | |
---|---|---|---|---|
Junts per Catalunya (JuntsxCat) | Annibyniaeth | Carles Puigdemont | ||
Ciudadanos (Cs) | Rhyddfrydiaeth | Inés Arrimadas | ||
Gweriniaeth Chwith Catalwnia (ERC–CatSí) | Asgell chwith annibynnol | Oriol Junqueras | ||
Sosialwyr Catalwnia (PSC–PSOE) | Cymdeithas Ddemocrataidd | Miquel Iceta | ||
Catalunya en Comú (CatComú–Podem) | Eco-sosialaeth | Xavier Domènech | ||
Partit Popular de Catalunya (PP) | Rhyddfrydiaeth-geidwadol | Xavier García Albiol | ||
Candidatura d'Unitat Popular–Crida Constituent (CUP) | Gwrth-gyfalafiaeth/Catalwnia Annibynnol | Carles Riera |
Gweler hefyd
golygu- Esquerra Republicana de Catalunya: y blaid weriniaethol
- Cenedlaetholdeb Catalanaidd
- Països Catalans: y tiriogaethau lle siaredir y Gatalaneg gryfaf
- Carme Forcadell i Lluís: Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia
- Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2014
- Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "En las elecciones al Parlamento de Cataluña podrán votar 5.553.983 electores" (PDF).
- ↑ Gisbert, Josep (30 Hydref 2017). "El independentismo asume que debe presentarse a las elecciones". La Vanguardia (yn Spanish). Barcelona. Cyrchwyd 30 Hydref 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Noger, Miquel (30 Hydref 2017). "Los partidos secesionistas se inclinan por ir a las elecciones". El País (yn Spanish). Barcelona. Cyrchwyd 30 Hydref 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Tomàs, Neus (30 Hydref 2017). "Los partidos independentistas sopesan ya cómo presentarse al 21-D". eldiario.es (yn Spanish). Cyrchwyd 30 Hydref 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Sixto Baqueiro, Camilo (5 Tachwedd 2017). "Carles Puigdemont será el candidato del PDeCAT en las elecciones del 21-D". El País (yn Spanish). Barcelona. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "Puigdemont: "Estoy dispuesto a ser candidato; incluso desde el extranjero"". La Vanguardia (yn Spanish). Barcelona. 3 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Puente, Arturo (3 Tachwedd 2017). "El PDeCAT apuesta por una lista conjunta contra el 155 y por la amnistía". eldiario.es (yn Spanish). Cyrchwyd 5 Tachwedd 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Barrena, Xabi (4 Tachwedd 2017). "ERC rechaza una candidatura conjunta solo con el PDECat". El Periódico de Catalunya (yn Spanish). Barcelona. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Romero, Nazaret. "Puigdemont to head 'Together for Catalonia'". www.catalannews.com.
- ↑ Medina Ortega, Manuel (2017). "The Political Rights of EU Citizens and the Right of Secession". In Closa, Carlos (gol.). Secession from a Member State and Withdrawal from the European Union: Troubled Membership. Cambridge University Press. t. 142. ISBN 1107172195. Cyrchwyd 28 Hydref 2017.
- ↑ "Crida Constituent pretén "fer engrunes el sistema"".
- ↑ "Albert Rivera, a los que le llaman facha: "En Cataluña, lo más progresista es facha"".
- ↑ Burgen, Stephen; Jones, Sam (21 December 2017). "All you need to know about the Catalonia election" – drwy www.theguardian.com.
- ↑ "El PP se presenta como el único partido 'unionista' de Cataluña frente a la autodeterminación anunciada por Mas".
- ↑ "Programa electoral – Catalunya en Comú – Podemos". catalunyaencomupodem.cat.
- ↑ "Catalunya en Comú: la maldición de ser decisivo". Cadena SER. 4 Rhagfyr 2017.
Dolenni allanol
golygu- Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2017 Archifwyd 2017-12-15 yn y Peiriant Wayback Cyhoeddiad y Generalitat de Catalunya (Catalaneg)
- Refferendwm Catalunya: Argraffiadau gohebydd y BBC - roedd y Refferendwm a gynhaliwyd yn Hydref 2017 yn 'anghyfreithlon' medd Llywodraeth Sbaen; a hyn oedd y rheswm pam y bu iddynt alw Etholiad Catalwnia 2017.
Andalucía ·
Aragón ·
Asturias ·
Cantabria ·
Castilla-La Mancha ·
Castilla y León ·
Catalwnia ·
Extremadura ·
Galisia ·
Gwlad y Basg ·
Madrid ·
Murcia ·
Navarra ·
La Rioja ·
Valenciana ·
Ynysoedd Balearig ·
Yr Ynysoedd Dedwydd ·
Dinasoedd ymreolaethol
Ceuta ·
Melilla