PartnerIAITH Aman Tawe

Sefydlwyd Cynllun Hybu’r Gymraeg (PartnerIAITH) Aman Tawe yn 2011 o ganlyniad i ddadansoddiadau ystadegol ac ymchwil manwl gan y Fwrdd yr Iaith Gymraeg, a chyhoeddwyd adroddiad yn amlinellu’r heriau o ran y Gymraeg o fewn yr ardal, yn ogystal â chynigion ar gyfer camau gweithredu arbennig i adfer y sefyllfa.

Logo PartnerIAITH Aman Tawe

Cefndir

golygu

Ar ddechrau’r cynllun, bu’r Bwrdd yn gweithio’n agos a’r Mentrau Iaith lleol – Bro Dinefwr, Castell Nedd Port Talbot a Brycheiniog i gynllunio ar gyfer datblygu model newydd o weithio ar y cyd a hynny mewn ardal o arwyddocâd ieithyddol arbennig. Derbyniodd Mentrau Iaith Bro Dinefwr a Chastell Nedd Port Talbot grantiau i gyflogi dau swyddog i weithio’n benodol ar y Cynllun, gyda gyllideb ychwanegol ar gyfer cynnal prosiectau. Cyflogwyd dau swyddog gan Fwrdd yr Iaith yn cwblhau’r tîm o bedwar o swyddogion. Rhannwyd dyletswyddau rheoli’r Cynllun rhwng Rheolwr Rhanbarth y De Orllewin (Bwrdd yr Iaith Gymraeg) a Phrif Swyddogion y Mentrau lleol.

Amcanion

golygu

Seiliwyd y Cynllun ar yr amcanion canlynol:

  • Cynllunio a gweithredu’n strategol o fewn ardal o arwyddocâd ieithyddol
  • Cynnal ystod o brosiectau ar sail profiad y cyfnod diwethaf ym maes cynllunio ieithyddol a datblygu cymunedol
  • Gweithio’n agos a phobl yn eu cymunedau ag ymateb i anghenion a dyheadau lleol
  • Gweithio’n agos a’r prif bartneriaid o fewn yr ardal a sicrhau cydweithio effeithiol
  • Gweithio’n agos a’r Awdurdodau lleol - creu egni o blaid y Gymraeg ar draws y ffiniau sirol, ac ar wahanol lefelau
  • Dylanwadu ac adnabod cyfleoedd o fewn rhaglenni a strategaethau lleol, sirol a chenedlaethol
  • Gweithredu ar sail ymchwil a thystiolaeth Meysydd Strategol

Erbyn hyn, mae'r prosiect yn gweithredu ar sail pedwar maes strategol penodol sef;

  • Teuluoedd a Phlant
  • Pobl Ifanc
  • Hamdden a Chymdeithasol
  • Y Gweithle

Llwyddiannau

golygu

Mae nifer o brosiectau llwyddiannus wedi eu rhedeg o fewn ardaloedd Aman Tawe ers sefydlu'r prosiect. Mae rhai o'r rhai mwyaf llwyddiannus yn cynnwys; ymgyrch Cymraeg yn Gyntaf gyda busnesau; gweithio gyda rhieni i newid eu harferion iaith; cynllun Radio Aman Tawe; a llawer mwy o weithgareddau cymdeithasol.[1]

Ar hyn o bryd, mae swyddogion y Fentrau Iaith lleol yn dal i fod yn weithredu'n dwys yn ardal. Maent yn ceisio annog pontio i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â chynnig amryw o weithgareddau cymunedol a chymdeithasol er mwyn annog rhieni i barhau i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Cynyddu nifer y cymunedau lle defnyddir y Gymraeg fel prif iaith". Llywodraeth Cymru. 4 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 10 Mawrth 2020.