Pat Buttram

actor a aned yn 1915

Actor a digrifwr o Americanwr oedd Maxwell Emmett "Pat" Buttram (19 Mehefin 1915[1]8 Ionawr 1994).[2] Ef oedd sidekick Gene Autry ar The Gene Autry Show (1950–56), a chwaraeodd Mr. Haney yn y comedi sefyllfa Green Acres (1965–71). Roedd yn enwog am ei lais cryglyd sy'n nodi ei rannau mewn nifer o ffilmiau animeiddiedig Disney, yn enwedig Siryf Nottingham yn Robin Hood (1973) a'r ci Chief yn The Fox and the Hound (1981). O 1981 ymlaen actiodd Buttram mewn llai o ffilmiau, ond ymddangosodd yn aml ar deledu ac yn gyhoeddus fel tostfeistr[1] ac yn y 1980au cyfranodd jôcs i areithiau'r Arlywydd Ronald Reagan.[3] Bu farw ym 1994 o fethiant yr aren.[4]

Pat Buttram
Ganwyd19 Mehefin 1915 Edit this on Wikidata
Addison Edit this on Wikidata
Bu farw8 Ionawr 1994 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Birmingham–Southern
  • Mortimer Jordan High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor llais, actor ffilm, actor teledu, actor llais, actor Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
PriodSheila Ryan Edit this on Wikidata
Gwobr/auseren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata

Ffilmyddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Wilson, Claire M.. Pat Buttram. Encyclopedia of Alabama. Adalwyd ar 13 Mawrth 2013.
  2. (Saesneg) Vosburgh, Dick (2 Chwefror 1994). Obituary: Pat Buttram. The Independent. Adalwyd ar 13 Mawrth 2013.
  3. (Saesneg) Pace, Terry (1 Mawrth 2001). Pat Buttram: Homespun humorist, character actor, cowboy sidekick. Los Angeles Times. Adalwyd ar 13 Mawrth 2013.
  4. (Saesneg) Pat Buttram, 78, Actor In 'Green Acres' Series. The New York Times (10 Ionawr 1994). Adalwyd ar 13 Mawrth 2013.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Grabman, Sandra. Pat Buttram: The Rocking Chair Humorist (Boalsburg, Bearmanor, 2006).


   Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.