Pat McIntosh
Awdur o'r Alban yw Pat McIntosh. Mae hi’n ysgrifennu ffuglen trosedd hanesyddol a ffugwyddonol.
Pat McIntosh | |
---|---|
Ganwyd | Swydd Lanark |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | llenor |
Bywyd a gyrfa
golyguCafodd McIntosh ei geni yn Lanarkshire yn yr Alban. Dechreuodd hi ysgrifennu yn saith oedd, ac mae hi’n dweud taw Angus MacVicar ysbrydolodd hi i ysgrifennu.[1] Roedd hi’n byw a gweithio yng Nglasgow am nifer o flynyddoedd cyn symud i arfordir gorllewinol yr Alban.[2] Cyn llwyddo fel awdur, gweithiodd hi fel “llyfrgellydd, croesawydd, athrawes daeareg a phalaeontoleg a thiwtor gyda’r Brifysgol Agored”.[1] Cafodd hi ei llwyddiant cyntaf fel awdur gyda chyfres o storïau byr ffugwyddonol a gafodd eu cyhoeddi yn yr antholeg “The Year’s Best Fantasy Stories” yn y 1970au, ond mae hi’n hysbys fel awdur oherwydd y gyfres trosedd hanesyddol gyda Gil ac Alys Cunningham, sydd wedi ei osod yn yr Alban ganoloesol. Dechreuodd y gyfres gyda ‘The Haper’s Quine’ yn 2004. Mae Constable & Robinson yn cyhoeddi’r llyfrau yn y Deyrnas Unedig, a Carrol & Graf yn yr Unol Daleithiau.
Cyhoeddiadau
golyguTrosedd Hanesyddol
golygu- The Harper's Quine (2004)
- The Nicholas Feast (2005)
- The Merchant's Mark (2006)
- St. Mungo's Robin (2006)
- The Rough Collier (2008)
- The Stolen Voice (2009)
- A Pig of Cold Poison (2010)
- The Counterfeit Madam (2011)
- The Fourth Crow (2012)
- The King’s Corrodian (2013)
Storiau byr
golygu- Falcon's Mate (1974)
- Cry Wolf (1975)
- Ring of Black Stone (1976)
- The Cloak of Dreams (1977)
- Child of Air (1979)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 ""Pat McIntosh" (cyfweliad ar wefan Art of Detection)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-08. Cyrchwyd 2014-01-27.
- ↑ Tudalen Pat McIntosh ar wefan Fantastic Fiction