Doethor yn Tamilakam hynafol, sydd heddiw yn India, oedd Patañjali (Tamil: பதஞ்சலி, Sansgrit पतञ्जलि) a oedd yn awdur nifer o weithiau Sansgrit a Tamil. Y mwyaf o'r rhain yw Swtrâu Ioga Patanjali, testun ioga clasurol. Efallai nad Patañjali oedd awdur yr holl weithiau a briodolir iddo, gan fod nifer o awduron hanesyddol hysbys o'r un enw. Neilltuwyd llawer o ysgolheictod dros y ganrif ddiwethaf i'r awdur nodedig hwn.[1]

Patanjali
GanwydUnknown Edit this on Wikidata
India Edit this on Wikidata
Bu farwUnknown Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner India India
Galwedigaethieithydd, mathemategydd, athronydd, llenor Edit this on Wikidata
Blodeuodd2 g CC Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSwtrâu Ioga Patanjali Edit this on Wikidata

Ymhlith yr awduron pwysicaf o'r enw Patañjali mae:[2][3][4]

  • Awdur y Mahābhāṣya, traethawd hynafol ar ramadeg ac ieithyddiaeth Sansgrit, wedi'i seilio ar Aṣṭādhyāyī o Pāṇini. Mae bywyd y Patañjali hwn wedi'i ddyddio i ganol yr 2il g. CC, gan ysgolheigion y Gorllewin ac India.[5][6][7] Teitl y testun hwn oedd bhasya neu "sylwebaeth" ar waith Kātyāyana - gwaith Pāṇini gan Patanjali, ond mae cymaint o barch yn nhraddodiadau India nes ei fod yn cael ei adnabod yn eang yn syml fel Mahā-bhasya neu "Sylwebaeth Fawr". Mae'r syniadau ar strwythur, gramadeg ac athroniaeth iaith wedi dylanwadu ar ysgolheigion crefyddau Indiaidd eraill fel Bwdhaeth a Jainiaeth.[8][9]
  • Casglwr y Swtrâu Ioga, testun ar theori ac ymarfer Ioga[10] ac ysgolhaig nodedig o athroniaeth Hindŵaidd ysgol Samkhya.[11][12] Amcangyfrifir iddo fyw rhwng yr 2g CC a'r 4g OC, gyda mwy o ysgolheigion yn derbyn dyddiadau OC.[13][10][14] Mae'r Yogasutras yn un o'r testunau pwysicaf yn nhraddodiad India a sylfaen Ioga clasurol.[15] Dyma'r testun Ioga Indiaidd a gyfieithwyd fwyaf yn ei oes ganoloesol i ddeugain o ieithoedd Indiaidd.[16]
  • Awdur testun meddygol o'r enw Patanjalatantra. Dyfynnir ef a dyfynnir y testun hwn mewn llawer o destunau canoloesol sy'n gysylltiedig â gwyddorau iechyd, a gelwir Patanjali yn awdurdod meddygol mewn nifer o destunau Sansgrit fel Yogaratnakara, Yogaratnasamuccaya a Padarthavijnana.[17] Mae pedwerydd ysgolhaig Hindŵaidd hefyd o'r enw Patanjali, a oedd yn debygol o fyw yn yr 8g ac a ysgrifennodd sylwebaeth ar Charaka Samhita a gelwir y testun hwn yn Carakavarttika.[18] Yn ôl rhai ysgolheigion Indiaidd o'r oes fodern fel PV Sharma, mae'n bosib mai'r ddau ysgolhaig meddygol o'r enw Patanjali yw'r un person, ond yn berson hollol wahanol i'r Patanjali a ysgrifennodd glasur gramadeg Sansgrit Mahābhasya.[18]
  • Mae Patanjali yn un o'r 18 siddhars yn nhraddodiad Tamil siddha (Shaiva).[19]

Mae Patanjali yn parhau i gael ei anrhydeddu â chysegrfeydd a gyda rhai mathau o safleoedd (neu asanas) ioga modern, fel Ioga Iyengar[20] a Ioga Ashtānga Vinyāsa.[21]

Patañjali - cerflun fodern yn Patanjali Yogpeeth, Haridwar

Etifeddiaeth

golygu

Mae Patanjali yn cael ei anrhydeddu â chysegrfeydd mewn rhai ysgolion modern o ioga.[20][21] Mae'r ysgolhaig ioga David Gordon White yn ysgrifennu bod hyfforddiant athrawon ioga yn aml yn cynnwys "cyfarwyddyd gorfodol"[16] o'r Ioga Sutra. Mae White yn galw hyn yn "chwilfrydig a dweud y lleiaf",[16] fod y testun yn ei hanfod yn amherthnasol i "ioga fel y mae'n cael ei ddysgu a'i ymarfer heddiw",[16] gan nodi yw'r Ioga Sutra" yn crybwyll ystumiau neu safleoedd neu asanas y corff, nac am ymestyn ac anadlu ".[16]

Llyfrydfdiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Raghavan, V.; et al. (1968). New Catalogus Catalogorum. 11. Madras: University of Madras. tt. 89–90. lists ten separate authors by the name of "Patañjali."
  2. Ganeri, Jonardon. Artha: Meaning, Oxford University Press 2006, 1.2, p. 12
  3. Radhakrishnan, S.; Moore, C.A., (1957). A Source Book in Indian Philosophy. Princeton, New Jersey: Princeton University, ch. XIII, Yoga, p. 453
  4. Flood 1996
  5. Sures Chandra Banerji (1989). A Companion to Sanskrit Literature: Spanning a Period of Over Three Thousand Years, Containing Brief Accounts of Authors, Works, Characters, Technical Terms, Geographical Names, Myths, Legends and Several Appendices. Motilal Banarsidass. t. 233. ISBN 978-81-208-0063-2.
  6. Scharf, Peter M. (1996). The Denotation of Generic Terms in Ancient Indian Philosophy: Grammar, Nyāya, and Mīmāṃsā. American Philosophical Society. tt. 1–2. ISBN 978-0-87169-863-6.
  7. Cardona, George (1997). Pāṇini: A Survey of Research. Motilal Banarsidass. tt. 267–268. ISBN 978-81-208-1494-3.
  8. Scharfe, Hartmut (1977). Grammatical Literature. Otto Harrassowitz Verlag. tt. 152–154. ISBN 978-3-447-01706-0.
  9. Harold G. Coward; K. Kunjunni Raja (2015). The Encyclopedia of Indian Philosophies, Volume 5: The Philosophy of the Grammarians. Princeton University Press. tt. 3–11. ISBN 978-1-4008-7270-1.
  10. 10.0 10.1 Maas, Philipp A. (2006). Samādhipāda: das erste Kapitel des Pātañjalayogaśāstra zum ersten Mal kritisch ediert (yn Almaeneg). Aachen: Shaker. ISBN 978-3832249878.
  11. Dasgupta, Surendranath (1992). A History of Indian Philosophy, Volume 1, p.229 Motilal Banarsidass Publications. ISBN 8120804120
  12. Phillips, Stephen H.,(2013). Yoga, Karma, and Rebirth: A Brief History and Philosophy, Columbia University Press. ISBN 0231519478
  13. Bryant 2009.
  14. Michele Desmarais (2008), Changing Minds: Mind, Consciousness and Identity in Patanjali's Yoga Sutra, Motilal Banarsidass, ISBN 978-8120833364, pages 16-17 with footnotes
  15. Desmarais, Michele Marie (2008). Changing Minds : Mind, Consciousness And Identity In Patanjali'S Yoga-Sutra And Cognitive Neuroscience. Motilal Banarsidass. tt. 15–16. ISBN 978-81-208-3336-4., Quote: "The YS is widely acknowledged to be one of the most important texts in the Hindu tradition and is recognized as the essential text for understanding classical Yoga".
  16. 16.0 16.1 16.2 16.3 16.4 White 2014, t. xvi. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "FOOTNOTEWhite2014" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  17. Meulenbeld, G. Jan (1999). History of Indian Medical Literature, vol. I part 1. Groningen: E. Forsten. tt. 141–44. ISBN 978-9069801247.
  18. 18.0 18.1 Meulenbeld, G. Jan (1999). History of Indian Medical Literature, vol. I part 1. Groningen: E. Forsten. tt. 143–144, 196. ISBN 978-9069801247.
  19. Feuerstein, Georg. "Yoga of the 18 Siddhas by Ganapathy". Traditional Yoga Studies. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-23. Cyrchwyd 17 Mawrth 2019.
  20. 20.0 20.1 "Invocation to Patanjali". Iyengar Yoga (UK). Cyrchwyd 31 Awst 2019.
  21. 21.0 21.1 "Sharath Jois". Kpjayi.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-10. Cyrchwyd 31 Awst 2019.