Ioga
Disgyblaethau traddodial meddyliol a chorfforol sy'n tarddu o India yw ioga[1] (Sansgrit, Pāli: योग yóga).[2][3] Mae ioga hefyd yn un o chwe ysgol uniongred (āstika) athroniaeth Hindŵ, ac at y gôl y mae'r ygol hwnnw yn anelu ati.[4][5] Mae hefyd yn cyfeirio at y swm o'r holl weithgareddau meddyliol, llafar a chorfforol yn Jainiaeth.
Mae prif ganghennau ioga yn athroniaeth Hindŵ yn cynnwys Ioga Raja, Ioga Karma, Ioga Jnana, Ioga Bhakti, a Ioga Hatha.[6][7][8] Caiff Ioga Raja ei grynhoi yn Swtrâu Ioga Patanjali, ac adnabyddir yn syml fel Ioga yng nghyd-destun athroniaeth Hindŵ, ac mae'n ran o draddodiad Samkhya[4] Mae nifer o destunau Hindŵ yn trafod agweddau o ioga, gan gynnwys Upanishads, y Bhagavad Gita, y Pradipika Ioga Hatha, y Shiva Samhita ac amryw o dantrâu.
Mae gan y gair Sansgrit "ioga" sawl ystyr,[9] ac mae'n tarddu o'r gwraidd Sanskrit yuj, sy'n golygu "i reoli", "i ieuo" neu "i uno".[10] Mae cyfeiithiadau'n cynnwyr "ymuno", "cyfuno", "undeb", "cysylltair", a "modd".[9] Yn gyffredinol tu allan i India, mae'r term ioga yn cael ei gysylltu â Ioga Hatha a'i asanas (ymddaliadau) neu fel ffurf o ymarfer corff. Gelwir un sy'n ymarfer ioga neu'n dilyn athroniaeth ioga yn iogi.[11][12]
Yoga noethGolygu
Gelwir yoga noeth yn Sansgrit yn nagna yoga neu'n vivastra yoga, sef yr arfer o yoga heb ddillad. Er bod llawer o ymarfer ioga noeth yn y cartref ac y y byd natur, mae nifer gynyddol o gyfranogwyr mewn dosbarthiadau grŵp. Mae'r arfer yn ennill poblogrwydd, yn enwedig mewn cymdeithasau gorllewinol sydd â mwy o gyfarwydd â niethus cymdeithasol.
FfynonellauGolygu
- ↑ Geiriadur yr Academi, [yoga].
- ↑ Stuart Ray Sarbacker, Samadhi: The Numinous and Cessative in Indo-Tibetan Yoga. SUNY Press, 2005, tud. 1-2
- ↑ Tattvarthasutra [6.1], gweler Manu Doshi (2007) Cyfieithiad o'r Tattvarthasutra, Ahmedabad: Shrut Ratnakar tud. 102
- ↑ 4.0 4.1 Jacobsen, Knut A. (gol.); Larson, Gerald James (gol.) (2005). Theory And Practice of Yoga: Essays in Honour of Gerald James Larson, Brill Academic Publishers. ISBN 90-04-14757-8. (Studies in the History of Religions, 110)
- ↑ Diffiniad Monier-Williams o ioga."
- ↑ Pandit Usharbudh Arya (1985). The philosophy of hatha yoga. Himalayan Institute Press; 2il argraffiad
- ↑ Sri Swami Rama (2008) The royal path: Practical lessons on yoga. Himalayan Institute Press; Argraffiad newydd
- ↑ Swami Prabhavananda (cyfieithydd), Christopher Isherwood (cyfieithydd), Patanjali (awdur). (1996). Vedanta Press; How to know god: The yoga aphorisms of Patanjali. Argraffiad newydd
- ↑ 9.0 9.1 Apte, Vaman Shivram (1965). The Practical Sanskrit Dictionary. Delhi: Motilal Banarsidass Publishers. ISBN 81-208-0567-4
- ↑ Gavin Flood (1996)
- ↑ Geiriadur yr Academi, [yogi].
- ↑ American Heritage Dictionary: "Yogi, One who practices yoga." Websters: "Yogi, A follower of the yoga philosophy; an ascetic."