Paul Brand
Mae Paul Brand (ganwyd 1985) yn newyddiadurwr Cymreig ac yn olygydd Newyddion ITV yn y DU. Mae wedi bod yn gyflwynydd rhaglen materion cyfoes Tonight ers 2022. Bu gynt yn ohebydd gwleidyddol i ITV News. Mae wedi bod yn ganolog i’r adrodd ar gyfres o gynulliadau yr honnir iddynt ddigwydd ar draws adeiladau’r llywodraeth yn ystod y pandemig COVID-19 2020-21.
Paul Brand | |
---|---|
Ganwyd | 1985 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Cafodd Brand ei eni yn yr Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.[1] Cafodd ei fagu yn Nhregolwyn Mynychodd ei ysgol gyfun leol, lle daeth yn brif fachgen,[2] a dywed ei fod am fod yn newyddiadurwr o "tua 17 neu 18 oed". Derbyniodd fwrsariaeth gan ITV i astudio newyddiaduraeth yn City, Prifysgol Llundain, ar ôl graddio o Goleg yr Iesu, Rhydychen.
Ers Ebrill 2022 mae Brand yn gyflwynydd y rhaglen newyddion Tonight.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Benson, Rhianna (11 Tachwedd 2021). "How Welsh journalist searched thousands of death records to identify 'Patient Zero' - the first UK death from AIDS". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 March 2022.
- ↑ Brand, Paul (7 Mawrth 2016). "Why it's essential we tackle homophobia in schools". The Telegraph (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Mawrth 2022.
- ↑ Hibbs, James (9 Mawrth 2022). "Paul Brand announced as new host of ITV's Tonight". Radio Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Mawrth 2022.