Ysgol uwchradd yw ysgol gyfun, sydd ddim yn dewis eu disgyblion ar sail gallu na champau academaidd. Defnyddir y term yn gyffredin yn y Deyrnas Unedig, yn arbennig yng Nghymru a Lloegr, lle cyflwynwyd ysgolion gyfun tuag at ddiwedd yr 1960au a'r 1970au cynnar. Addysgir tua 90% o ddisgyblion Prydeinig mewn ysgolion cyfun.

Gan fod ysgol gyfun yn addysgu amrediad eang o bynciau ar draws y sbetrwm academaidd a galwedigaethol, deallir yn gyffredinol y bydd angen i'r ysgol fod o faint go fawr i allu derbyn plant o amryw eang o allu.

GweithrediadGolygu

Mae ysgolion cyfun fel arfer yn ysgolion cymunedol sy'n cymryd eu disgyblion o ardal leol sydd wedi cael ei diffinio gan yr awdurdod lleol, gelwir hwn yn dalgylch. Yn Lloegr a Chymru mae gan rhieni ddewis i ryw raddau, o ba ysgol i anfon eu plant, nid yw'n anghyffredin i ddisgyblion deithio cryn bellter i'w hysgolion.

Defnyddir y rhanfwyaf o'r ysgolion system lle gosodir y plant mewn set yn ôl gallu, ym mhob pwnc unigol. Mae tueddiad diweddar i ysgolion cyfun arbenigo mewn meysydd megis technoleg.

Mae pob ysgol gyfun yn derbyn plant rhwng 11 ac 16 oed. Mae gan rai chweched ddosbarth; mae'r mynediad i'r dosbarth yn agored, ac mae rhai disgyblion yn astudio cymwysterau Lefel A, tra bod eraill yn dilyn rhaglenni galwedigaethol.

Hanes a gwleidyddiaethGolygu

TarddiadGolygu

Cyn yr Ail Ryfel Byd, roedd addysg uwchradd yn brin ac yn ddrud. Ar ôl y rhyfel, darparwyd addysg uwchradd am ddim, hyd 14 o leiaf, yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon. Rheolwyd hyn odan y System Tridarn a gafodd ei chyflwyno odan lywydd y Ceidwadwr Rab Butler, yr ysgrifennydd gwladol ar gyfer addysg ar y pryd. Eisteddai plant yr arholiad eleven plus yn eu blwyddyn olaf o addysg gynradd ac anfonwyd hwy i ysgol uwchradd modern, ysgol uwchradd technegol neu ysgol ramadeg, yn dibynnu ar eu gallu. Ni weithredwyd ysgolion technegol yn eang, ac am 20 mlynedd roedd y system yn ymarferol yn un deurannol, gyda chystadleuaeth ffyrnig am y llefydd a oedd ar gael ar gyfer yr ysgolion gramadeg, a amrywiai rhwng 15% a 25% yn dibynnu ar y lleoliad.

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Ysgolion Cyfun CynnarGolygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gweithrediad Wlad EangGolygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Dadleuon Mawr CallaghanGolygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Statws PresennolGolygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Dadleuon a materionGolygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gwledydd EraillGolygu

Yr AlbanGolygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gweriniaeth IwerddonGolygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

SwedenGolygu

Roedd gan Sweden ysgolion gallu cymysg am rhai blynyddoedd cyn iddynt cael eu cyflwyno yng Nghymru a Lloegr, dilynwyd hyn fel un o'r modelau ar gyfer Cymru a Lloegr.

FfindirGolygu

Mae'r Ffindir wedi defnyddio ysgolion cyfun ers yr 1970au.

Yr AlmaenGolygu

Mae gan yr Almaen ysgolion cyfun sy'n cael eu adnabod fel Gesamtschule. Gall yr ysgol hwn cael ei fynychu yn lle'r system tair ysgol.

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: