Pedoli gwartheg
Pedoli gwartheg oedd yr hen grefft o roi pedolau ar garnau meddal gwartheg cyn eu cerdded ar y ffordd galed. Mae carnau gwartheg yn llawer meddalach na charnau ceffylau ond bod pedol buwch mewn dau ddarn gan fod eu gewin wedi'u hollti, ac nid un darn fel pedol ceffyl. Roedd pedolau gwartheg hefyd yn llawer teneuach ac ysgafnach.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cwm Eithin gan Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931.