Pedro Castillo
Mae José Pedro Castillo Terrones (ganwyd 19 Hydref 1969), a elwir yn Pedro Castillo, yn undebwr llafur a gwladweinydd o Beriw, a anwyd ym 1969 yn Puña, talaith Chota, Periw. Mae wedi bod yn Arlywydd Gweriniaeth Periw ers 28 Gorffennaf 2021.
Pedro Castillo | |
---|---|
Ganwyd | 19 Hydref 1969 Puña |
Alma mater | |
Swydd | Arlywydd Periw |
Plaid Wleidyddol | Possible Peru, Free Peru |
Priod | Lilia Paredes |
Gwobr/au | torch mawr Gorchymyn Condor yr Andes |
llofnod | |
Roedd ei fagwraeth yn un dlawd, wledig. Mae'n athro wrth ei alwedigaeth ac roedd yn un o arweinwyr streic athrawon cenedlaethol wnaeth bara bron i dri mis yn 2017.
Yn ystod etholiad arlywyddol Periw yn 2021, fo oedd ymgeisydd y blaid Perú Libre, plaid sy'n arddel Marcsiaeth-Leniniaeth, er nad yw'n aelod o'r blaid. Yn ail rownd yr etholiad, roedd benben â Keiko Fujimori, poblyddwr asgell dde. Etholwyd Castillo gyda 50.1% o'r bleidlais, a hynny wedi 6 wythnos o ail-gyfri.
Mae'n arddel safbwyntiau'r chwith radical o ran yr economi a pholisi tramor, ond safbwyntiau ceidwadol o ran materion cymdeithasol.
Gyrfa gwleidyddol
golyguYn 2017, yn ystod streic yn erbyn newidiadau i'r system addysg gan y Llywodraeth ar y pryd, daeth Castillo i'r amlwg fel un o brif lefarwyr mudiad y streic ar lawr gwlad.[1] Yn dilyn llwyddiant y streic, mudiad y magisterio yn hytrach na phlaid wleidyddol oedd sail cefnogaeth Castillo. Yn sgil hyn, gofynnodd y blaid Perú Libre iddo fod yn ymgeisydd.[1]
Mae ganddo ddaliadau cymdeithasol ceidwadol: mae'n gwrthwynebu erthyliad a hawl pobl hoyw i briodi.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Migus, Romain (2021-09-01). "Au Pérou, deux mondes face à face". Le Monde diplomatique (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2021-09-25.