Marcsiaeth–Leniniaeth

Term gwleidyddol a fathwyd yn ystod y dadleuon ideolegol yn yr Undeb Sofietaidd yn sgil marwolaeth Vladimir Lenin yw Marcsiaeth–Leniniaeth. Y ffurf hon ar gomiwnyddiaeth oedd ideoleg wladwriaethol yr Undeb Sofietaidd ac yn ideoleg swyddogol pleidiau'r Comintern a phleidiau Stalinaidd.

Y faner goch gydag wynebau Karl Marx, Friedrich Engels, a Vladimir Lenin.

Mae'r enw yn ailddiffinio Marcsiaeth yn nhermau Leniniaeth, yn ôl dehongliad Joseff Stalin o syniadaeth ei ragflaenydd. Dyrchafwyd y diweddar Lenin yn destun cwlt, a manteisiodd Stalin ar ei enw er mwyn cyfiawnhâu ei bolisïau ac i atgyfnerthu ei awdurdod gwleidyddol ac ideolegol. Mewn gwirionedd, roedd Staliniaeth yn groes i Leniniaeth mewn sawl ffordd.

Hyd yn oed wedi marwolaeth Stalin a chwymp ei gwlt personol, defnyddiwyd y term Marcsiaeth–Leniniaeth gan yr awdurdodau Sofietaidd i gyfreithloni polisi, drwy awgrymu perthynas uniongyrchol rhwng yr ideoleg wladwriaethol a syniadaeth wreiddiol Karl Marx, a amlygwyd gan chwyldro Lenin. Defnyddiwyd i gondemnio ffurfiau ar Farcsiaeth yn heresïau ac i ladd ar lywodraethau comiwnyddol eraill oedd yn cynnig cyfundrefnau gwahanoli'r model Sofietaidd. Yn yr hollt rhwng yr Undeb Sofietaidd a Gweriniaeth Pobl Tsieina, cyhuddwyd Beijing gan y Cremlin o wyro oddi ar wirionedd ideolegol Marcsiaeth–Leniniaeth, tra'r oedd y Tsieineaid yn mynnu bod Maoaeth yn olynydd cyfreithlon i syniadaeth Marx a Lenin.