Pedro Pardo de Cela

Uchelwr, merthyr a 'Chadlywydd Galisia' oedd Pedro Pardo de Cela (hefyd: Pedro Pardo de Cela Aguiar e Ribadeneira; c. 1425 - 17 Rhagfyr 1483). Roedd yn fab i Xoán Nunes Pardo, señor de la Torre Cela a Doña Teresa Rodriguez de Aguiar. Fe'i dienyddiwyd gyda'i fab Pedr ar 3 Hydref 1483 o flaen Eglwys Gadeiriol Mondoñedo gan is-frenhinoedd pabyddol.[1]

Pedro Pardo de Cela
GanwydPedro Pardo de Cela Aguiar e Ribadeneira Edit this on Wikidata
1420 Edit this on Wikidata
Betanzos Edit this on Wikidata
Bu farw3 Awst 1483 Edit this on Wikidata
Mondoñedo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Galisia Galisia
Galwedigaetharweinydd milwrol Edit this on Wikidata
PlantConstanza de Castro Edit this on Wikidata
llofnod
Man dienyddio Pedro: Eglwys Gadeiriol Mondoñedo

Mae'r wybodaeth amdano'n gyfuniad o dystiolaeth hanesyddol ac o chwedloniaeth lafar, yn debyg felly i'r Brenin Arthur, a thyfodd Pedro'n symbol o frwydr y Galisiaid dros eu hunaniaeth a'u traddodiadau.

Yn dilyn marwolaeth Henry IV, cefnogodd Pardo de Cela Isabella o Castilla yn erbyn Juana La Beltraneja. Enillodd ffafr y frenhines am hyn, a'i anrhydeddodd gyda hawliau a theitl 'Cadlywydd' a'i wneud yn Faer Viveiro. Fodd bynnag, trodd Isabel a'i gŵr yn erbyn llawer o uchelwyr rhydd Galisia. Cryfhaodd y tensiwn rhwng y ddwy ochr rhwng 1476 ac 1483. Daliwyd ef a'i fab a'u ddienyddio.[2]

Pont Passatempo golygu

 
Ponte do Pasatempo

Yn un o'r chwedlau am ei ddienyddiad, dywedir i'r frenhines Isabella ddanfon pardwn ar femrwn, ond iddo gael ei ddal yn ôl gan ddilynwyr Esgob Mondoñedo, a oedd yn elyn pennaf i Bedro de Cela. Ni chyrhaeddodd y Pardwn. Ychydig wedyn, dienyddiwyd Pedro a dywedir i'w wefusau lefaru'r geiriau "creed, creed, credo".[3] Mae'r bont yn dal i sefyll heddiw ac yn atyniad i bererinion gwladgarol. Ceir llawer o storiau am hyn ar ffurf cerddi, caneuon, nofelau ayb.

The legend tells that the Queen Isabella, merciful with his old ally, gave to his wife, Isabel de Castro, a royal pardon that could never deliver, because it was retained in the so-called Pasatempo Bridge by the followers of the Bishop of Mondoñedo, sworn enemy of the Marshall.

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Cyfeiriadau golygu

  1. Mayán Fernandez, Francisco: The Marshal Pardo de Cela and the church of Mondoñedo in the light of new historical documents. Santiago: Charts A. 1.962.
  2. www.tesourosdegalicia.com; adalwyd 13 Mehefin 2015
  3. A execução do Marechal Pero Pardo de Cela.