Pedro Shimose

cyfansoddwr a aned yn 1940

Bardd Bolifiaidd yn yr iaith Sbaeneg yw Pedro Shimose (ganed 1940).

Pedro Shimose
Ganwyd30 Mawrth 1940 Edit this on Wikidata
Riberalta Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBolifia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Complutense Madrid
  • Higher University of San Andrés Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, cyfansoddwr Edit this on Wikidata

Ganed yn Riberalta, Talaith Beni, yng ngogledd Bolifia. Mewnfudwyr o Japan oedd ei rieni. Astudiodd y gwyddorau cyfathrebu yn yr Universidad Complutense ym Madrid. Gweithiodd yn golofnydd ac yn olygydd i'r papur newydd dyddiol Presencia yn La Paz, ac yna addysgodd lenyddiaeth yn yr Universidad Mayor de San Andrés yn La Paz. Ymhlith ei gasgliadau cynnar o farddoniaeth mae Triludio del exilio (1961), Sardonia (1967), Poemas para un pueblo (1968), a Quiero escribir, pero me sale espuma (1972).[1]

Ymsefydlodd yn Sbaen yn y 1970au, a chyhoeddodd ragor o gyfrolau o gerddi gan gynnwys Caducidad del fuego (1975), Al pie de la letra (1976), Reflexiones maquiavélicas (1980), a Poemas (1988). Ysgrifennodd hefyd gasgliad o straeon byrion El Coco se llama Drilo (1976), a'r gyfrol Diccionario de autores iberoamericanos (1982).[1]

Derbyniodd sawl gwobr am ei farddoniaeth, gan gynnwys y Wobr Barddoniaeth Genedlaethol (Bolifia) ym 1960 a 1966, Gwobr Casa de las Américas (Ciwba) am ei gyfrol Quiero escribir, pero me sale espuma ym 1972, a Gwobr Leopoldo Panero (Sbaen) ym 1975. Rhoddwyd Gwobr Ddiwylliannol Genedlaethol Bolifia iddo yn 2000, a fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr casgliad barddoniaeth yr Instituto de Cooperación Iberoamericana ym Madrid.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Silvia M. Nagy, "Shimose, Pedro (1940–)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 19 Medi 2020.

Darllen pellach

golygu
  • José Ortega, Letras bolivianas de hoy: Renato Prada y Pedro Shimose (1973).