Pegynau'r Ddaear

(Ailgyfeiriad o Pegynau)

Y pegynau neu'r rhanbarthau pegynol yw'r ardaloedd o'r Ddaear sy'n amgylchynu pegynau daearyddol y Gogledd a'r De, sef i ogledd Cylch yr Arctig, neu i de Cylch yr Antarctig. Mae ganddynt hinsawdd begynol, sef tymereddau oer iawn, rhewlifiant trwm, a gwahaniaethau eithafol yn nhermau oriau golau dydd, gyda golau dydd 24 awr yn yr haf (haul canol nos), a thywyllwch parhaol yng nghanol y gaeaf.

Lleoliad y rhanbarth(au) pegynol

Gorchuddir llawer o arwynebedd y rhanbarthau gan gapiau rhew. Mae maint y capiau rhew yn lleihau ar hyn o bryd fel canlyniad i newid hinsawdd a achosir gan allyriant carbon.

Mae gan blanedau a lloerennau eraill rhanbarthau pegynol diddorol. Mae'n debyg fod gan y lleuad maint sylweddol o rhew yn nhyllau tywyll ei phegynau. Mae gan y blaned Mawrth capiau pegynol, ond carbon deuocsid yw'r rhan fwyaf yn hytrach na dŵr rhewedig. Mae echelin Wranws ar gymaint o osgo nes fod un pegwn, ac yna'r llall, yn gwynebu'r haul mwy neu lai yn union, wrth i'r blaned gylchynnu'r haul.

Gweler hefyd golygu