Lleuad
Y Lleuad (enw benywaidd) neu'r Lloer (enw benywaidd; symbol: ) yw unig loeren naturiol sylweddol y Ddaear.
Enghraifft o'r canlynol | lleuad planedol, lleuad mas planedol, lleuad arferol |
---|---|
Màs | 73.4767 ±0.0033 |
Rhan o | System Daear-Lleuad |
Dechrau/Sefydlu | c. Mileniwm 4528. CC |
Lleoliad | Cysawd yr Haul mewnol |
Yn cynnwys | Atmosphere of the Moon, Montes Pyrenaeus, geological features on the Moon, lunar soil |
Enw brodorol | Moon |
Pellter o'r Ddaear | 385,000.5 cilometr |
Echreiddiad orbital | 0.0567 ±0.0001 |
Radiws | 1,737.1 cilometr, 1,738.14 cilometr, 1,735.97 cilometr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Seryddiaeth | |
Lleuad |
Mae'r Lleuad yn troi o amgylch y ddaear mewn orbit o 27.3 diwrnod ac ei gyfartaledd pellter o'r ddaear yw 384,403 km. Fe gymer 1.3 eiliad i'r goleuni o'r haul a adlewyrchir oddi ar wyneb y Lleuad deithio i'r ddaear (yn ôl cyflymdra goleuni). Mae tua 500,000 o graterau ar ei hwyneb. Grym disgyrchiant sydd yn dal y lleuad yn ei horbit. Does fawr ddim atmosffer ganddi i'w hamddiffyn. Credir i'r lleuad gael ei ffurfio 4.46 biliwn[1] o flynyddoedd yn ôl, ychydig wedi i'r Ddaear gael ei ffurfio. Ceir sawl damcaniaeth ynghylch sut y crewyd y Lleuad, ond y fwyaf poblogaidd gan seryddwyr yw iddi gael ei ffurfio o ddarnau o'r Ddaear wedi i gorff enfawr o faint y blaned Mawrth wrthdaro a'r Ddaear. Gelwir y corff hwn yn Theia.
Fe wnaeth dadansoddiad yn Awst 2018 gadarnhau am y tro cyntaf bod "tystiolaeth pendant" i ddweud bod dŵr ar ffurf rhew yn bodoli ar wyneb y Lleuad.[2] Mae dyddodion rhew i'w ganfod ar begynnau'r De a'r Gogledd er bod mwy i'w gael ym mhegwn y De, lle mae dŵr wedi ei ddal mewn ceudyllau a holltau mewn cysgod parhaol, sy'n ei ganiatau i barhau fel rhew ar yr wyneb am nad yw pelydrau haul yn eu cyrraedd.[3]
Rocedi a gwrthrychau eraill
golyguY gwrthrych cyntaf a wnaed gan ddyn i gyrraedd y Lleuad oedd Luna 2 yn 1959, ac fe wnaeth Luna 3 yn yr un flwyddyn anfon yn ôl luniau o ochr bellaf y Lleuad. Cafodd y ddau ohonyn nhw eu lawnsio gan rocedi Sofietaidd.
Ar 20 Gorffennaf 1969 glaniodd dau ofodwr Americanaidd yn y modiwl lleuad Eagle – sef rhan o'r llong ofod Apollo 11 – arni, ac un ohonynt, Neil Armstrong, oedd y dyn cyntaf i gerdded ar y lleuad. Rhwng 1969 a 1972, ymwelodd 27 o ddynion â'r Lleuad; cerddodd 12 ohonynt arni. Gadawodd y criw olaf, sef Eugene Cernan a Harrison Schmitt, yn 1972. Mae gan sawl gwlad gynllun i anfon pobl i'r Lleuad rywbryd yn y 30 blwyddyn nesaf, gan gynnwys y UDA a Tsieina.
Dwy ochr y Lleuad
golyguGan fod y Lleuad yn cymryd yr un cyfnod i droelli unwaith ac i fynd o amgylch y Ddaear unwaith, mae un ochr wastad yn wynebu i ffwrdd o'r Ddaear. Fe welwyd ochr arall y Lleuad am y tro cyntaf pan anfonodd y chwiliedydd gofod Luna 3 luniau ohoni yn ôl i'r Ddaear yn 1959.
Mathau o leuad
golygu- Lleuad goch
Llanrwst, bore Gwener, Ionawr 21, 2011[4]
- Bore heulog tawel ond oer iawn gyda barrug trwm. Lleuad oren lawn dros Llanddwyn eto ben bore cyn iddi "fachlud" yn fuan wedyn. Cofnod DB
Dyma gafodd Twm Elias am leuad coch ar gyfer ei gyfrol “Am y Tywydd”:[5]
- llid y gwynt yw’r lleuad goch
- y lleuad yn codi’n goch – sychder mawr a gwres y lleuad o hyd yn goch cyn storm
- lleuad goch – gwynt a glaw
Cleirwy 15 Chwefror 1870: "He was ill with cold from this vicious poisonous east wind... The red round moon hanging over Clifford Hill. Owls hooting in the dusk across the Dingles[6]".
Geirfa
golygu- Lloergan
Noson golau lleuad yw noson loergan. Mae gŵyl Kann al Loar a gynhelir yn flynyddol yn Landerne yn Llydaw yn ein harwain i ystyr ein gair. Ystyr Kann al Loar yw lleuad llawn, kann yn golygu gwyn (cymharer "bara can", "cannu" – to bleach) a loar yn golygu lloer. Fel enw ar ŵyl, mae hefyd yn chwarae ar debygrwydd kann i'r gair mwy cyfarwydd canu, sydd hefyd yn cael ei rannu rhwng y ddwy iaith – ac mae yna dipyn o hynny yn digwydd yn yr ŵyl hefyd: mae'r gair Landerneau ar y cap, gyda chromfachyn siap gewin o leuad ar ôl yr e, yn fodd i ddangos enw'r dref landerne yn Llydaweg, yn ogystal a'r enw Ffrangeg landerneau.
Cefn gwlad
golyguCynnydd a Gwendid
golyguMae hi'n goel eitha cryf hyd yn oed heddiw fod y lleuad yn dylanwadu ar gyflwr pethau byw o bob math. H. y. wrth i'r lleuad gryfhau (neu ddod i'w llawnder) fe fyddai'n ysgogi tyfiant ac wrth iddi leihau, neu wanio, byddai egni pethau byw yn lleihau yn ogystal. O ganlyniad, arferai ffermwyr a garddwyr gynllunio'u gwaith o amgylch y lleuad ac yn darllen Almanac Caergybi neu Almanac y Miloedd i gael dyddiadau cyflyrau'r lleuad yn fanwl bob mis.
Byddid yn hau yn y gerddi a'r caeau ar y cynnydd (yn chwarter cynta'r lleuad newydd os yn bosib) fel bod planhigion ifanc yn egino a thyfu a rhoddid ieir i orri fel bo'r cywion yn deor a chynyddu efo'r lleuad. Dyma'r adeg i hel planhigion meddyginiaethol hefyd fel eu bod yn fwy effeithiol. Yn ogystal byddai coed ffrwythau yn cael eu tocio a'u himpio a byddai priodasau a dîls busnes yn fwy llwyddiannus pe digwyddant pan fo'r lleuad ar gynnydd. Byddid hefyd yn lladd a halltu mochyn pan fo'r lleuad ar ei "chelder" (Morgannwg).
Adeg gwendid neu "dywyllwch" y lleuad y dylsid tynnu chwyn o'r ddaear, pigo ffrwythau, tynnu llysiau, medi'r cnydau a thorri ffyn neu goed (er mwyn i'r coedyn aeddfedu'n iawn). Casglwyd ffrwythau gan y credid y byddai golau'r lleuad yn gwneud i'r ffrwythau bydru'n gynt.
Llawnder y lleuad oedd yr adeg orrau i roi tarw i'r fuwch, myharen i'r defaid, a chawsai'r rhai fyddai'n priodi ar leuad llawn lond tŷ o blant. Dyma hefyd yr adeg orrau i gneifio'r defaid ac i dorri eich gwallt! Byddai'r lleuad llawn yn peri i ferched esgor, yn enwedig os oeddent eisoes ychydig yn hwyr – cymaint felly nes yr arferai Nyrs Jones (y fydwraig) o Nefyn alw'r lleuad llawn yn "Leuad Babis".
Hen enwau
golyguBu'r lleuad lawn dros y canrifoedd yn goleuo'r nos inni a cheir enwau arni, fel "Hen Lantar y Plwy", "Canwyll y Plwy", "y Lanter Fawr" a "Haul Tomos Jôs" ac roedd hi'n arfer ar un adeg i gyfarfodydd ac eisteddfodau lleol gael eu cynnal oddeutu'r lleuad lawn – er mwyn i'r goleuni fod o gymorth i bobl gerdded adre liw nos.
Câi y lleuad lawn gynta ar ôl Cyhydnos yr hydref (22ain o Fedi) ei galw'n "Lleuad Fedi" neu "Leuad y Cynheuaf", pryd y ceid y "Naw Nos Olau". Byddai'r Naw Nos Olau yn eithriadol o bwysig i ffermwyr ar un adeg oherwydd ei goleuni llachar – bron fel golau dydd am o leia' y 4 noson gynt, ac ar ôl y lleuad lawn ei hun. Roedd hyn yn eithriadol o hwylus at gario'r ysgubau ŷd i'r teisi ac am y byddai'r lleuad yn codi gyda'r machlud gellid dal ati i gario o'r caeau (h.y., cyn dyddiau'r dyrnwr medi) ymhell i'r nos – hyd y wawr pe bai angen.
Lwc, anlwc a darogan
golyguDros y canrifoedd, a hyd yn oed yn 2018, cred rhai ei bod yn anlwcus gweld y lleuad newydd drwy wydr, neu drwy ganghennau coed am fod y gwydr, neu'r canghennau'n atal, neu "ddwyn", lwc dda cynnydd y lleuad. Ac mae rhai yn dangos eu harian i'r lleuad newydd neu'n troi'r arian drosodd yn eu poced – er mwyn iddo gynyddu efo'r lleuad.
I sicrhau lwc dda arferai pobl Ceredigion godi eu hetiau'n barchus pan welid y lleuad newydd gynta a byddai'r merched yn bowio iddi. Mae'n lwcus gweld y lleuad newydd dros yr ysgwydd chwith ac os wnewch chi ddymuniad i leuad newydd gynta'r flwyddyn fe gaiff ei wireddu. Yn Sir Gaernarfon, pe gofynai bachgen neu ferch ifanc i'r lleuad newydd pwy fyddent yn eu priodi, fe fyddant yn siwr o weld eu darpar briod mewn breuddwyd y noson honno.
Lloerig
golyguFe dybid ers talwm fod y lleuad yn effeithio ar gyflwr meddyliol pobl, a tan tua canrif yn ôl roedd yn cael ei hystyried fel un o brif achosion gwallgofrwydd. Mae'r geiriau “Lunatic” yn Saesneg a "Lloerig" yn Gymraeg yn cyfeirio at hynny – ac mae'r Lunacy Act (neu Ddeddf Lloerigrwydd) 1842, yn dweud yn ddigon clir bod rhywun lloerig yn dioddef o "benwendid" yn y cyfnod a ddilynai'r lleuad lawn. Roedd yn anlwcus iawn cysgu yng ngolau'r lleuad oherwydd hynny – rhag ofn ichi fynd dan ei ddylanwad!
Dyn neu Sgwarnog y Lleuad
golyguCoel sy'n gyffredin drwy wledydd Ewrop yw y gallwch weld llun ar wyneb y lleuad, llun o hen ŵr yn cario baich o goed ar ei ysgwydd ac mai wedi ei alltudio yno yr oedd o am hel priciau tân ar y Sul! Arferid dweud hyn yng Nghymru tan yn ddiweddar, yn enwedig i blant. Ond yn yr India, Tsieina, Japan, a De Affrica sgwarnog neu gwningen a welir. Gwningen hefyd geir yn ysgrif-luniau'r Astec ym Mecsico i bortreadu'r lleuad. Cysylltir y sgwarnog â duwies y lleuad Geltaidd. Efallai bod adlais o'r cyswllt hwnnw yn yr hen stori am Melangell yn rhoi lloches i'r sgwarnog rhag helgwn y tywysog Brochfael ym Maldwyn?
Cyfeiriadau
golygu- ↑ #author.fullName}. "The moon is 40 million years older than we thought it was". New Scientist (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-04.
- ↑ "Water ice 'detected on Moon's surface'". BBC News (yn Saesneg). 2018-08-21. Cyrchwyd 2023-11-04.
- ↑ "Water Ice Confirmed on the Surface of the Moon for the 1st Time!". Space.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 August 2018. Cyrchwyd 21 August 2018.
- ↑ Bletin Llên Natur rhifyn 37
- ↑ Twm Elias, Am y Tywydd
- ↑ Dyddiadur Francis Kilvert