Peiriant metachwilio

Offeryn chwilio yw peiriant metachwilio sy'n anfon ymholiadau chwilio defnyddiwr i sawl peiriant chwilio arall ac/neu i gronfeydd data ac sy'n crynhoi'r canlyniadau mewn rhestr unigol neu'n eu dangos yn ôl eu ffynhonnell wreiddiol. Mae peiriannau metachwilio yn galluogi defnyddwyr i gael mynediad at anoddau sawl peiriant chwilio gyda'i gilydd trwy roi un set o ofynion yn unig ynddo. Sail bodolaeth peiriannau metachwilio yw'r gred fod y We yn rhy fawr erbyn hyn i un peiriant chwilio ar ben ei hun fedru creu mynegiad ohoni i gyd ac felly gellir cael canlyniadau chwilio llawer mwy cynhwysfawr trwy ddefnyddio adnoddau sawl peiriant chwilio gyda'i gilydd. Gall hyn arbed defnyddio mwy nag un peiriant unigol yn olynol hefyd.

Braslun o strwythr metachwiliad.

Defnyddir y term 'metachwilio' gan amlaf i gyfeirio at ddosbarth o beiriannau chwilio masnachol ar y we, ond yn dechnegol fe'i defnyddir hefyd i ddisgrifio'r paradigm o chwilio unrhyw set o ffynonellau data lluosog.

Mae'r peiriannau metachwilio ar y rhyngrwyd yn cynnwys Ixquick.

Gweler hefyd golygu

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: peiriant metachwilio o'r Saesneg "metasearch engine". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.