Península Valdés
Gorynys neu benrhyn ar arfordir Talaith Chubut yn yr Ariannin yw'r Península Valdés. Mae'n un o'r saith Safle Treftadaeth y Byd a ddynodwyd gan UNESCO yn yr Ariannin.
Math | gorynys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Chubut |
Gwlad | Yr Ariannin |
Arwynebedd | 360,000 ha |
Uwch y môr | 69 metr |
Gerllaw | San Matías Gulf |
Cyfesurynnau | 42.5°S 63.93333°W |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd, safle Ramsar |
Manylion | |
I'r gogledd o'r penrhyn mae'r Golfo San José ac i'r de y Golfo Nuevo ("y Bae Newydd"). Yr unig dref ar y penrhyn yw Puerto Pirámides; y ddinas agosaf yw Porth Madryn.
Ceir amrywiaeth o anifeiliaid yma, yn arbennig Pengwin Magellan, Eliffantod Môr a Morlewod. Yr atyniad mwyaf i dwristiaid yw'r cyfle i weld morfilod